BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Treffynnon
Arwydd TreffynnonCroeso i Dreffynnon
Cyflwyniad i Dreffynnon gan un o gyn-drigolion y dref, Chris Bailey.

"Yn swyddogol Yr Wyddgrug yw prif dref Sir Fflint, ond Treffynnon ydy gwir galon y sir ac ardal Gymreigiaf y sir hefyd.

"Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn Nyffryn Maesglas (yr ardal o Dreffynnon i lawr i'r Afon Dyfrdwy) yn y 17eg ganrif lle'r oedd pob math o ddiwydiannau wedi eu lleoli, gan gynnwys gweithfeydd copr oedd yn defnyddio copr oedd yn cael ei gludo ar long o Fynydd Parys yn Sir Fôn.

"Rhoddodd y gweithfeydd copr enw ar y nant sy'n mynd i lawr y dyffryn - Yr Afon Gach oherwydd lliw melyn brown y dŵr.

Ffynnon Gwenffrewi
"I fyny'r nant mae'r dŵr yn hollol sanctaidd. Tua 1500 mlynedd yn ôl collodd Santes Gwenffrewi ei phen ac yn ôl yr hanes daeth dŵr allan o'r ddaear yn y fan honno.

"Mae Ffynnon Gwenffrewi yn dal i ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae rhai yn dweud fod dŵr y ffynnon wedi gwella llawer o bobl sâl.

"Y ffynnon sy'n rhoi'r enwau i'r dre - Treffynnon a Holywell.

Enwogion lleol
"Mae llawer o bobl enwog yn hanu o gylch Treffynnon fel y pêl-droedwyr rhyngwladol Ron Davies, Barry Horne, Mike England, Ray Lambert a Roy Vernon.

"A beth am gantorion fel Caryl Parry-Jones o Ffynnongroyw gyfagos, Ieuan ap Siôn, David Lloyd nôl a hoff gantores Brenhines Victoria - Sarah Edith Wynne (Eos Cymru).

"Treffynnon yw tref genedigol yr actor Jonathan Pryce, naturiaethwr Goronwy Wynne, awduron Emyr Humphreys, Thomas Jones (Gwenffrwd) ac Einion Evans heb sôn am Lady Herbert Lewis wnaeth gofnodi llawer o ganeuon gwerin yn cynnwys y Cadi Ha.

"Roedd Thomas Pennant yn enwog am deithio a 'sgwennu am dripiau o gwmpas Cymru efo gwaith Moses Griffith fel dyluniwr yn y llyfrau.

"Mae digon o gymeriadau cyfoes yn dal i fyw yn y dref - neb llai na'r Cynghorydd Sir Gareth Roberts, Treffynnon fel y'i gelwid yn ystod ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth.

Cymreictod
"Mae Treffynnon yn dre' Gymreig iawn, ac er mai dim ond tua 20% sy'n siarad Cymraeg yn rhugl mae'r awyrgylch yn Gymreig.

"Er bod yr acen yn debyg i acen gogledd Lloegr yn ôl rhai, mae'n acen Gymreig efo digon o dafodiaith. Yn Saesneg rydach chi'n clywed pobl yn dweud "nai" OK nai neu going for a pint nai?

"Tref heb draffig ydy Treffynnon, neu o leiaf y stryd fawr, ac fe gynhelir nifer o ddigwyddiadau yno.

"Ceir marchnad pob dydd Mercher a dydd Sadwrn, marchnad Ffrengig tair gwaith y flwyddyn, adloniant stryd amrywiol iawn, cannoedd o bobl yn dod i weld seremoni goleuo goleuadau 'Dolig ond y prif weithgaredd sy'n arbennig i Dreffynnon ydy Gwŷl Cadi Ha."

Gan: Chris Bailey a arferai fyw yn Nhreffynnon ond sydd â chysylltiadau agos â'r dref o hyd.



Digwyddiadau
Chwaraeon
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy