BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Jonathan Pryce
Jonathan Pryce

Ganwyd: 1 Mehefin 1947

Magwyd: Treffynnon

Addysg: Ysgol Ramadeg Treffynnon.


Actor theatr, ffilmiau a theledu amryddawn.

Wyddech chi?: Ymhlith ei amrywiol rannau ar hyd y blynyddoedd, mae'r ddau ran rhyfedd yma: rhan y Meistr sef gelyn 'Dr Who' mewn parodi ar gyfer 'Comic Relief'; a llais y cyfarwyddwyr ffilm Stanley Kubrick mewn rhaglen ar ei fywyd gan fod Kubrick ei hun wedi gwrthod cymryd rhan ynddo!

Yn seren lwyddiannus y sgrin a'r llwyfan, mae Jonathan yn un o gyn ddisgyblion enwog Ysgol Ramadeg Treffynnon. Yn fab i'r siopwyr a'r cyn löwr Isaac a Margaret Price, fe gafodd Jonathan ei gyfle cyntaf i actio mewn cynhyrchiad yn yr ysgol fach ond pryd hynny rhoddwyd ei unig linell o ddeialog i hogyn arall! Ai'r methiant cyntaf hwn fu'n gyfrifol am fowldio gyrfa ar y llwyfan iddo?

Yr ieuengaf o dri o blant, (roedd ganddo ddwy chwaer hŷn), aeth Jonathan i Ysgol Ramadeg Treffynnon er dydy'r atgofion ddim yn rhai hapus iawn gan iddo dreulio cyfran o'r amser y tu allan i ddrws y prifathro. Er gwaethaf hyn, fe hyfforddwyd ef yn athro yn Ormskirk ond dechreuodd actio yno a chael gwersi drama a gwnaeth gais i ymuno â RADA.

Yn dilyn sawl blwyddyn fel actor llwyfan llwyddiannus, yn arbennig yn y RSC, fe gafodd lwyddiant yn y ffilm gwlt Brazil, comedi ddu gan yr animeiddiwr Terry Gilliam o Monty Python. Fe gastiodd Gilliam Pryce fel Sam Lowry, clerc sydd ar goll yn ei fyd hunllefus ac sy'n dianc yn ei freuddwydion yn unig.

Ers hynny mae Jonathan wedi ennill canmoliaeth am ei waith llwyfan yn Miss Saigon a My Fair Lady ac mewn ffilmiau mawr megis Evita, Regeneration a James Bond 007: Tomorrow Never Dies.

Ei funud fawr: Yn hedfan yn uchel uwchben y cymylau fel Sam Lowry yn Brazil ymgais Terry Gilliam i addasu nofel George Orwell 1984.

Yn answyddogol: Mae'r safle gwe 'Rotten Tomatoes' sy'n trafod y ffilmiau gwaethaf erioed yn trafod rhai o'i ffilmiau!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy