"Ar y bore Sadwrn mae cannoedd o blant ysgol yn cymryd rhan mewn dawnsfeydd gwerin Gymreig efo criw mawr o oedolion. Daw ymwelwyr a cherddorion i'r dref o bob rhan o Gymru - diolch i Ddawnswyr Delyn, y tîm lleol o ddawnswyr gwerin Gymreig. Yn y gorffennol rydym hefyd wedi croesawu timoedd o Fflandrys, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw. Y prif ddigwyddiad yw gorymdaith Cadi Ha. Dawns a chân yw'r Cadi Ha sy'n wreiddiol o ardal Treffynnon. Dawns i 8 dyn yn gwisgo dillad gwynion a dau gymeriad - y Cadi (sy'n gwisgo dillad geneth) a'r Bili sy'n gwisgo dillad du. Mae pawb yn duo eu hwynebau efo llwch glo er mwyn cuddio o'r diafol. Mae cofnod o'r ddawns a chân yn mynd yn ôl i 1815 yn ardal Treffynnon. Mae sawl fersiwn o'r geiriau yn dibynnu ar y pentref ond dyma rai: Hwp Ha Wen, Cadi Ha, Morys stowt am yr uchla neidio, Hwp dene fo,
Fy ladal i, a'i ladal o, a'r ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo! A fi di gwr y rhuban coch,
Neidiaf dros y gafna,
Hwp dene fo!
A Chynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!"
 |