Tafodiaith y gogledd ddwyrain 2
top
Yr Athro Peter Wynn Thomas o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn edrych ar nodweddion tafodieithoedd gogledd ddwyrain Cymru.
Pe bai gwobr am yr enw mwyaf tafodieithol ar bapur bro byddai Nene yn gystadleuydd cryf. Ffurf ar yr un ene 'yr un yna' yw nene. Mae nene yn debyg felly i nacw, sy'n dod o 'yr un acw'.
Yn ardal Rhosllannerchrugog y mae "nene" i'w glywed amlaf ond mae "ene" neu 'ne yn gyffredin drwy'r gogledd-ddwyrain.
Tri o'r mân wahaniaethau yn acenion y gogledd-ddwyrain sy'n weddol amlwg i'r glust yw:
ansawdd yr u
Yng ngorllewin yr ardal, mewn mannau fel Llansannan a Llanfair Talhaearn, mae'r u yn ddigon tebyg i sain y gogledd-orllewin. Ond wrth fynd tua'r dwyrain, mae'r u yn 'ysgafnhau'.
yr e mewn geiriau fel pethe, mame a tade
e sydd drwy'r rhan fwyaf o'r gogledd-ddwyrain ond ar hyd yr arfordir mae llain lle y bydd y brodorion yn dweud petha, mama a tada.
ansawdd yr e a'r o mewn geiriau fel gwely a torri
Yn y gogledd ddwyrain bydd yr 'e' yn gwely yn debyg fel rheol i'r 'e' yn gweld. A bydd yr 'o' yn torri yn debyg i'r 'o' yn tor. Ond yn ardal Rhosllannerchrugog bydd gwely a torri yn swnio'n debycach i gwêly a tôri. Mae'r nodwedd hon i'w chael yn sir Drefaldwyn hefyd. Mae'r gogledd ddwyrain yn tueddu i ddefnyddio'r un geiriau â'r gogledd orllewin. Ond mae ambell air yn fwy lleol.
Tri o eiriau lleol y gogledd ddwyrain yw 'mywion' (morgrug), 'sbens' (cwpwrdd dan y grisiau), a 'syrcyn' (crys isaf, fest). O'r tri hyn, dim ond mywion sy'n gwbl Gymraeg.
Weithiau bydd 'b' ac 'm' ar ddechrau geiriau yn cyfnewid â'i gilydd. Digwyddodd hynny yn hanes bawd a modfedd 'mesur y fawd'. Yn yr un modd, amrywiad ar bywion yw mywion. Ystyr lythrennol mywion, felly, yw 'creaduriaid byw' neu 'chwim'.
Addasiad ar y Saesneg jerkin (gwasgod) yw syrcyn. Ond nid benthyciad diweddar ydyw: mae'n cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg ers o leiaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Arwydd o hynafiaeth 'syrcyn' yn y Gymraeg yw bod y j yn jerkin wedi ei throi'n s.
Mae tystiolaeth bod 'sbens' yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg ryw ganrif ynghynt na 'syrcyn'. At hynny, mae sbens i'w glywed mewn rhannau o Wynedd a gogledd Powys hefyd. Benthyciad o spence 'pantri, cwpwrdd' yw sbens.
Dau o'r geiriau y mae rhai o drigolion Rhosllannerchrugog yn ymhyfrydu ynddynt ac y bydd rhai yn honni mai dim ond y nhw sy'n eu dweud yw 'bradgyfarfod' (annwyd drwg, cryd) a 'hws' (crasfa, cweir).
Ond mae 'bradgyfarfod' - yn y ffurf atgyfarfod weithiau - wedi ei gofnodi mewn sawl man arall yn y Gogledd.
Mae'n ymddangos bod mwy o hawl gan bobl y Rhos ar hws 'cweir, crasfa'. Ar wahân i'r Rhos ei hun, dim ond mewn pentrefi cyfagos - Llandegla, Bwlch-gwyn, Froncysylltau a'r Treuddyn - y mae hws wedi ei gofnodi hyd yn hyn.
Fel 'sbens' a 'syrcyn', gair benthyg o'r Saesneg yw 'hws' hefyd. O'r Ffrangeg y cafodd y Saesneg y gair. Gorchudd ar gefn ceffyl oedd house y Saesneg a gallai hws y Gymraeg olygu hynny rhwng tua'r bymthegfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gorchudd o fath arbennig - un a wneir â'r dwylo - yw 'cweir'. Dyna ystyr bresennol hws ac mae'n hysbys ers y ddeunawfed ganrif.
Mae'n ymddangos mai yn y Gymraeg yr aeth 'hws' i olygu 'cweir'. Mae hws, felly, yn enghraifft o'r modd y gall gair Saesneg fagu ei stêm ei hun yn y Gymraeg.


