BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

BBC Homepage
»Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau
Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Maldwyn John a Betsan LlwydChwilio am atebion yng ngwaelod y botel, yn nrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r cylch.

"Mae gan pob alcoholig ei stori, mae pob stori'n wahanol, a phob stori'n debyg" dyna a ddywedir ar ddeunydd cyhoeddusrwydd y ddrama Lysh gan Aled Jones Williams.

A dyna a gawn yn y ddrama. Stori tri alcoholig unigol, sydd â 'rhesymau' gwahanol am eu cyflwr, ond yn y bôn , ac wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, dysgwn mai amgylchiadau bywyd o'r gorffennol a phersonoliaeth y cymeriadau sydd wedi arwain at y cyflwr hwn ym mhob un ohonyn nhw.

Y mae'r ddrama yn seiliedig ar brofiadau'r awdur ei hun, a oedd tan flwyddyn yn ôl yn rhydd o alcohol am bymtheng mlynedd ond pan drodd yn ôl unwaith eto at y botel bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn canolfan breswyl arbennig yn yr Alban o'r enw Castle Craig.

Mae pob un o'r actorion yn gredadwy iawn ac yn rhoi perfformiad arbennig. Maldwyn John sy'n chwarae'r cymeriad Jona Fodca, dyn yn ei bedwardegau hwyr. Teimlaf bod y rôl hon yn gweddu'r actor yma i'r dim. Phil Reid yn portreadu Ifor, eto yn ei bedwardegau hwyr mewn siwt (ychydig yn flêr) a thei - a golwg wedi dechrau ei cholli hi arno. Betsan Llwyd yw'r therapydd Sandra a Rhodri Meilyr yn rhoi perfformiad arbennig mewn gwisg Santa Clôs. Valmai Jones yw'r cyfarwyddwr.

Chwilio am atebion
Mae gan bob un ei stori unigol ei hun ac yn chwilio am atebion. Wedi troi am gysur y botel, yn y pen draw daw'r sylweddoliad nad yng ngwaelod y botel gyntaf, na'r botel nesaf y mae'r atebion i broblemau bywyd.

Ceir dweud plaen yn y ddrama, am afael tynn iawn lysh ar yr alcoholig. Sandra yw'r cymeriad sy'n rhoi'r gosodiadau plaen i'r cymeriadau eraill - poenus bron i'r gynulleidfa am gyflwr alcohol. "Afiechyd y teimladau ydy alcoholiaeth yn y bôn. Mewn geiriau eraill ni fedr alcoholig fyw hefo'i deimladau." Wedi clywed Aled Jones Williams ei hun yn siarad yn agored am ei gyflwr dros y misoedd diwethaf, clywir ei lais yn gyson hefyd yn neialog y ddrama ac yng ngosodiadau'r cymeriad Sandra.



Phil Reid a Rhodri MeilyrMae rhywun yn tristau wrth glywed geiriau mor blaen. Cymeriad Santa Clôs er enghraifft yn sôn am y botel o "ddŵr cudd" "wedi'i chuddio'n ddigon decha ym mag llwch yr hwfyr."

Yn ôl y disgwyl, mae hon yn ddrama drom ac yn un farddonol iawn ar brydiau. Mae'n ddrama sy'n gofyn am ganolbwyntio yn hytrach nag eistedd yn ôl i'w mwynhau hi. Mae'n codi cwestiynau. Teimlais yn reit annifyr yn gadael y theatr - lle roedd torf digon parchus wedi troi allan i berfformiad cyntaf y ddrama yn Theatr y Dolman, Casnewydd

Sylweddolir erbyn y diwedd mai cysur dros dro a ddaw o'r botel fodca gudd y mherfeddion poced y got, a daw'r pwynt i chwilio ymhellach na'r botel wydr wag am atebion i gwestiynau bywyd.

Cynhyrchiad Theatr Bara Caws ydy'r ddrama, ac mae'n cael ei pherfformio yn Theatr y Dolman, Casnewydd tan Awst 6ed. Mi fydd yn teithio Cymru wedi wythnos yr Eisteddfod.

Adolygiad gan : Elin Wyn.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y BBC yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

lluniau'r wythnos
Lluniau Ty Tredegar a'r parc

Lluniau Dydd Sadwrn

Lluniau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Lluniau Dydd Llun

Lluniau Dydd Mawrth

Lluniau Dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau'r Orsedd

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy