
Cwrw ar y maes
Torri syched - a thraddodiad - steddfodol Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd cwrw ar werth ar y maes eleni.
Wedi blynyddoedd o grefu gan rai a blynyddoedd o wrthwynebu yr un mor daer gan eraill mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi caniatau gwerthu diodydd meddwol ar faes Casnewydd.
Yr oedd arwyddion ym Meifod y llynedd y byddai hyn yn digwydd yn hwyr neu'n hwyrach gyda rhai yn yfed cwrw o ganiau yn gwbl agored o gwmpas y prif bafiliwn.
Ond hyd yn oed yn awr nid pawb sy'n cytuno.
Mwy

|
| |
|