Mae'r gweithgaredd llinell amser yma yn dysgu am amser a thyfu i fyny. Mae'n cyflwyno'r cysyniadau o dreigl amser a sut mae pobl yn newid ac yn datblygu sgiliau trefnu naratif.
Dangoswch sut rydych chi wedi newid oddi ar pan oeddech chi'n fabi trwy osod digwyddiadau o'ch bywyd ar y ffrâm ddringo yn nhrefn amser:
• penblwyddi
• cyfnodau gwahanol o ddatblygiad
• teganau
• gweithgareddau
• dillad
• bwyd
• addysg
• gemau.
Cliciwch ar y lluniau yn y rhestr ar y chwith a'u llusgo i'r ffrâm ddringo.
I gymryd golwg agosach ar eich llinell amser, cliciwch ar y chwyddwydr. Cliciwch ar y saethau i symud ar ei hyd.
Lliwiwch y lluniau trwy glicio ar eicon y creon, dewis lliw ac yna'i lusgo dros y llun.
Cliciwch ar yr eicon bawd pan fyddwch chi wedi gorffen.
Argraffwch eich llinell amser a gwyliwch Bembo yn canu cân am dyfu i fyny!
> Chwarae Sut Dw i Wedi Newid