Nod y gweithgaredd yma yw helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth o dreigl amser yn ystod un diwrnod wrth ofyn iddyn nhw osod digwyddiadau fel mynd i'r ysgol a gwylio'r teledu yn y drefn gywir.
Bydd Bembo'r mwnci yn eich tywys trwy'r camau gwahanol.
Ewch ati i greu y ddelwedd fydd yn eich cynrychioli chi yn y gweithgaredd trwy ddewis:
• steil gwallt
• lliw gwallt
• lliw llygaid
• dillad
• lliw croen.
Yna, bydd Bembo yn dangos olwyn diwrnodau'r wythnos i chi - mae e hyd yn oed yn gwybod pa ddiwrnod yw hi heddiw!
Cliciwch ar y lluniau a'u llusgo i'r llinell amser ar waelod y sgrin i ddangos beth rydych chi'n ei wneud mewn diwrnod.
Gallwch chi newid trefn y lluniau wrth glicio arnyn nhw a'u llusgo i rywle arall ar y llinell amser.
Argraffwch eich llinell amser a gwyliwch ffilm wedi eu hanimeiddio o'ch diwrnod.
Cliciwch ar y bananas pan fyddwch chi am fynd yn ôl at y sgrin flaenorol ar unrhyw adeg.