Dysgwch sut i Hel Hanes eich ardal leol trwy ddatguddio'r cyfoeth o dystiolaeth sydd o'ch amgylch.
Casgliad o weithgareddau hanes ar gyfer disgyblion 7-11 oed (Cyfnod Allweddol 2) yw Hel Hanes. Nod y gweithgareddau yw ysbrydoli disgyblion i ddarganfod y cyfoeth o hanes o'u hamgylch.
Y tri gweithgaredd yw:
Dilyn Dy Drwyn
Ewch ar drywydd wyth digwyddiad hanesyddol yng nghwmni eich cyfaill S182. Mae gan y ci robotig yma drwyn da am stori - ac ef bydd yn eich tywys o gwmpas y toreth o dystiolaeth sydd o'ch cwmpas. Eich tasg chi wedyn yw astudio'r dystiolaeth a darganfod beth yn union ddigwyddodd.
Achubwch Fi
Eich pleidlais chi sy'n penderfynu dyfodol dau adeilad hanesyddol mewn rhaglen deledu ddychmygol.
Mae castell o Oes Fictoria wedi gweld dyddiau gwell a gwersyll carcharorion o'r Ail Ryfel Byd wedi hen fynd â'i ben iddo.
Ond sut dylid fynd ati i adfer yr adeiladau unigryw yma? Gwrandewch yn astud ar farn yr arbenigwyr cyn penderfynu.
Trwy'r Ffenest
Beth sydd tu allan i'ch ffenest chi? Dysgwch am wyth nodwedd arbennig o'r tirlun - gan gynnwys rheilffyrdd a thraffyrdd, iardiau llongau a blociau fflatiau.
Gwyliwch ffilmiau archif hanesyddol ac astudio hen luniau. A beth am roi cynnig ar gasglu pob math o ffeithiau hanesyddol diddorol trwy chwarae'r cwis cyflym?
Cymorth Clyweledol
Cliciwch ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel
- arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi yn yr adran 'Gwybodaeth'. Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.