Sioe deledu ddychmygol yw Achubwch Fi. Nod y gynulleidfa ydy penderfynu ar dynged dau adeilad hanesyddol - ac mae angen eich help chi i ddyfarnu.
Ewch at weithgareddau Achubwch Fi
Yr adeiladau dan sylw yw:
Castell Oes Fictoria
Cartref crand oedd hwn yn wreiddiol. Ond erbyn heddiw mae'r hen gastell druan wedi mynd â'i ben iddo. Beth fyddai'n gweddu orau - ei adfer a'i droi'n amgueddfa neu ei ailwampio a'i rannu'n fflatiau moethus?
Gwersyll Carcharorion o'r Ail Ryfel Byd
Adeilad dros dro i gadw carcharorion oedd y gwersyll - ac mae wedi gweld dyddiau gwell. A ddylid ei atgyweirio a'i droi'n atyniad ymwelwyr? Neu ei ddymchwel a chodi canolfan hamdden yn ei le?
Gwrandewch yn astud ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynlluniau - yna ewch ati i fwrw eich pleidlais. Cofiwch fod eich cefnogaeth chi'n holl-bwysig!
Edrychwch o gwmpas eich ardal. Pa adeiladau hanesyddol sydd angen eu hadfer? Beth fyddai'r peth gorau i'w wneud gyda nhw?