Mae'r gemau yma'n trin rhifau fel gwrthrychau gallwch chi eu grwpio gyda'i gilydd a'u cyfri. Mae'r creaduriaid rhyfedd o'r enw Wiblod sydd yn y gemau fel y cownteri a'r gleiniau mae plant yn eu defnyddio yn y dosbarth i ddysgu am adio, tynnu, lluosi a rhannu. Eich tasg yw helpu Llwynog i lenwi'r llongau gofod gyda'r nifer cywir o Wiblod mewn cyn lleied o droeon â phosib.
Gemau Llwynog
Cliciwch ar yr arwydd cwpan i chwarae'r gemau. Helpwch Llwynog i lenwi'r llongau gofod mewn cyn lleied o droeon â phosib. Mae'r niferoedd o Wiblod sydd rhaid i chi eu rhoi yn y llongau i'w gweld ar y llongau. Weithiau, bydd gofyn i chi lenwi llongau gyda rhifau sydd yn cadw at y rheol sydd wedi ei hysgrifennu ar ochr y llong e.e. dim ond eilrifau neu dim ond lluosrifau 10.
Mae 60 o gemau Llwynog. Gêm 1 yw'r hawsaf a gêm 60 yw'r anoddaf. Mae'r gemau wedi eu rhannu'n 6 grŵp o 10 gêm o lefel tebyg:
• cwmwl (1 i 10)
• traeth (11 i 20)
• ceunant (21 i 30)
• castell (31 i 40)
• pyramid (41 i 50)
• fforest (51 i 60).
Gallwch chi chwarae'r gemau mewn unrhyw drefn. Mae'r ddegfed gêm ym mhob lefel wedi ei chloi a bydd rhaid i chi ennill gwobr aur am chwarae'r naw gêm arall er mwyn ei datgloi.
Mae un tro yn golygu:
• adio Wiblod i'r twll
• tynnu Wiblod o'r twll
• gwagio'r twll gyda'r botwm clirio
• gwneud i'r llong ofod hedfan dros y twll.
Llwynog yn Chwilota
Cliciwch ar yr arwydd balŵn i chwarae'r tri gweithgaredd chwilota penagored. Mae'r llongau a'r poteli yn y gweithgareddau yma wedi eu gosod yn y fath fodd fel eu bod yn eich annog i ymchwilio i gysyniad arbennig ond does dim nod penodol i'w gyflawni. Maen nhw wedi eu cynllunio i blant eu chwarae ar eu pennau eu hunain, gyda phlentyn arall neu gyda rhiant neu fentor.
Mae yna dri gweithgaredd ymchwilio.
Chwilota 1 (Llong ofod oren)
Llenwch y tyllau yn y llong begiau gyda Wiblod. Bydd y nifer o Wiblod sydd eu hangen i'w weld ar ochr y llong. Unwaith rydych chi wedi llenwi'r llong gyda'r nifer cywir o Wiblod bydd llong newydd, wag yn ymddangos.
Mae'r gweithgaredd yma'n cynnig adborth ar:
• gyfri yn ôl ac ymlaen fesul 2, 3, 4, 5, a 10
• dyblu.
Chwilota 2 (Llong ofod werdd)
Llenwch ffenestri'r llong ofod gydag unrhyw nifer o Wiblod hoffech chi. Unwaith rydych chi wedi llenwi'r llong ofod, bydd llong newydd, wag yn ymddangos.
Mae'r gweithgaredd yma'n cynnig adborth ar:
• gyfri yn ôl ac ymlaen fesul 2, 5, 6, 7, 8, 9 a 10.
Chwilota 3 (Llong ofod goch)
Llenwch y llong reolau gyda rhifau sydd yn cadw at y rheol sydd wedi ei hysgrifennu ar ochr y llong. Unwaith rydych chi wedi llenwi'r llong, bydd llong ofod newydd, wag yn ymddangos.
Mae'r rheolau'n cynnwys:
• odrifau
• eilrifau
• lluosrifau 2
• lluosrifau 5
• lluosrifau 10
• rhifau'n gorffen â 0.
Mae'r gweithgaredd yma'n cynnig adborth ar:
• luosrifau 2, 5 a 10
• eilrifau ac odrifau
• rhifau'n gorffen â 0.