Gemau llinell rif yw y rhain lle mae'n rhaid i chi wneud i Cwningen neidio ar hyd y llinell rif fel ei fod yn glanio ar y llysiau blasus ac yn osgoi'r angenfilod. Mae'r gweithgareddau yma'n dangos sut gallwch chi feddwl am adio a thynnu fel symud yn ôl ac ymlaen ar hyd llinell rif yn yr un ffordd ag mae plant yn defnyddio llinellau rhif yn yr ystafell ddosbarth i ddysgu am adio, tynnu, lluosi a rhannu.
Gemau Cwningen
Cliciwch ar yr arwydd cwpan i chwarae'r gemau. Nod y gemau hyn yw gwneud i Cwningen i fwyta'r holl lysiau ar y llinell rif mewn cyn lleied o droeon â phosib.
Mae 60 o gemau gan Cwningen. Gêm 1 yw'r hawsaf a gêm 60 yw'r anoddaf. Mae'r gemau wedi eu rhannu'n 6 grŵp o 10 gêm o lefel tebyg:
• heulog (1 i 10)
• nos (11 i 20)
• eira (21 i 30)
• machlud (31 i 40)
• gofod (41 i 50)
• dinas (51 i 60).
Gallwch chi chwarae'r gemau mewn unrhyw drefn. Mae'r ddegfed gêm ym mhob lefel wedi ei chloi a bydd rhaid i chi ennill gwobr aur am chwarae'r naw gêm arall er mwyn ei datgloi.
Cwningen yn Chwilota
Cliciwch ar yr arwydd balŵn ar lwybr Cwningen i ddewis y gweithgareddau chwilota penagored. Yn y gweithgareddau yma gallwch chi greu eich posau eich hun. Gallwch chi symud neu newid y llysiau, yr angenfilod a'r trampolinau ar y llinell rif yn ogystal ac ychwanegu rhai eich hun. Mae dau weithgaredd ymchwilio.
Mae Cwningen yn Chwilota 1 yn cynnwys adborth ar:
• gyfri ymlaen ac yn ôl fesul 2, 3, 4, 5 a 10
• eilrifau ac odrifau
• dyblu
• gweithrediadau gwrthdro syml.
Mae Cwningen yn Chwilota 2 yn cynnwys adborth ar:
• gyfri ymlaen ac yn ôl fesul 6, 7, 8 a 9
• lluosrifau 2, 5 a 10
• gweithrediadau gwrthdro syml.