Mae'r mapiau yn y gweithgaredd yma'n dangos ymfudiadau yn ystod yr ugeinfed a'r bedwareddd ganrif ar bymtheg. Mae Map y Byd yn dangos ymfudiadau i Brydain ac Iwerddon ac oddi yno rhwng 1820 a 1980. Mae ymfudiadau o fewn Prydain ac Iwerddon i'w gweld ar Fap y Deyrnas Unedig. Mae'r wybodaeth am bob ymfudiad yn cynnwys ffotograffau, lluniau neu ffilm hanesyddol.
Dewis Map
Defnyddiwch fotymau Map y Byd a Map y DU yn y gornel chwith uchaf i newid rhwng y ddau fap yma.
Newidiwch rhwng ymfudiadau i Brydain ac ymfudiadau o Brydain wrth ddefnyddio swits O'r DU ac I'r DU yn y gornel dde uchaf.
Defnyddio'r Llinell Amser
Sgroliwch trwy'r degawdau rhwng 1820 a 1980 ar y llinell amser. Mae gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau o bwys ac ymfudiadau nodedig yn ystod degawd i'w gweld ar y panel sy'n ymddangos uwchben y llinell amser.
Ymfudiadau
Mae pob saeth coch ar y map yn cynrychioli ymfudiad. Mae saeth coch gyda llinellau gwyn toredig yn cynrychioli mwy nag un ymfudiad.
Darganfod Mwy am Ymfudiad
Cliciwch ar saeth coch i agor panel lle gallwch chi ddarganfod mwy o wybodaeth am yr ymfudiad arbennig hwnnw o dan y penawdau canlynol:
• Ble a Phryd?
• Pwy?
• Sut?
• Pam?
Mae'r wybodaeth yma'n cynnwys ffotograffau, lluniau neu ffilm hanesyddol. Cliciwch ar y ffotograffau a'r lluniau i'w gwneud nhw'n fwy a chliciwch ar y ffilm i'w gwylio.
Os cliciwch chi ar Dangoswch i Fi, fe gewch chi gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio'r adnodd yma.