Ewch ati i greu eich dyddiadur eich hun wrth naill ai addasu un o ddyddiaduron y plant neu greu un o'r newydd. Mae lluniau a ffotograffau dyddiaduron y plant ar gael i chi i'w defnyddio yn eich dyddiadur chi.
Os ydych chi am addasu dyddiadur parod, cliciwch ar y dyddiadur ar ochr chwith y sgrîn.
Gallwch chi newid yr enw ar y clawr, y testun tu fewn a'r lluniau. Mae'r lluniau wedi eu grwpio yn ôl dyddiaduron y plant. Mae'r opsiwn Fframiau Lluniau yn gosod ffrâm ar y dudalen lle gallwch chi dynnu eich llun eich hun ar ôl i chi argraffu eich dyddiadur.
Os ydych chi am greu dyddiadur o'r newydd, cliciwch ar un o'r ddau ddyddiadur ar y dde.