Enw Jenny Williams Oedran 20 Addysg Ysgol Gynradd Prendergast, Ysgol Aberdaugleddau ac ar hyn o bryd Coleg Sir Benfro. Swydd
Dwi'n gwneud Diploma Cenedlaethol Uwch, sef National Diploma ar gwrs Performing Arts yng Ngholeg Sir Benfro. Mae'n gwrs dwy flynedd a dwi yn fy ail flwyddyn nawr. Dwi hefyd yn gweithio tu ôl i'r bar yng nghlwb nos 'Circles' yn Aberdaugleddau. Rwyt ti wedi treulio amser yn gweithio yn America, lle yn union fuest ti?
Treuliais 9 wythnos mewn camp yn New Hampshire ac wedyn teithiais o gwmpas rhai llefydd am wythnos. Es i i Maine, Massachusetts, Efrog Newydd a Kenetikit. Pam penderfynaist fynd i weithio i Gamp America?
Roeddwn i eisiau her wahanol ac i gael profiad newydd. Dwi wrth fy modd yn teithio ac roedd hyn yn gyfle gwych i wneud hynny. Hefyd roeddwn i am gwrdd â phobl eraill o wledydd gwahanol i ddysgu mwy am ddiwylliannau gwahanol. Cwrddais â llawer o bobl o wledydd ar draws y byd sydd wedi dysgu llawer i fi ynglŷn â thraddodiadau a digwyddiadau hollol wahanol i fan hyn. Beth oedd dy brif gyfrifoldebau?
Roeddwn yn gofalu am y merched yn fy nghaban- deg ohonyn nhw. Roeddwn i a fy nghyd- weithiwr yn sicrhau eu bod yn hapus ac yn ddiogel. Dysgais i ddawns, addasiad ar y pryd, sef improvisation, drama a chrefftau gwersyllu. Sut glywaist am Gamp America?
Trwy chwilio ar beiriannau chwilio ar y we. Beth yw dy atgofion mwyaf o'r profiad?
Perfformiodd rhai o'r bobl ifanc yn y gwersyll dwy ddrama ar ôl dysgu'r caneuon a'r golygfeydd yn fy nosbarthiadau drama, sef 'Oh Promise Me' ac 'Annie'. Roedd hi'n braf gweld y perfformiadau hynny ac i weld y plant i gyd yn mwynhau'r noson hyd yn oes os nad oeddent yn cymryd rhan. A fyddet yn gwneud rhywbeth tebyg eto?
Yn bendant. Er mwyn gweld fy ffrindiau Americanaidd ac i fyw trwy'r profiad eto. A oedd unrhyw beth wnest ti ddim ei fwynhau?
Dweud 'ta ra' i fy ffrindiau ar y diwedd. Beth fyddet yn dweud wrth rywun sy'n meddwl am weithio yn America dros yr haf flwyddyn nesa'? Mae rhaid i chi bacio'n ofalus. Does dim angen pethau fel hair straightners na cholur achos roedd rhaid i ni ddangos i'r plant bod pethau pwysicach na phethau felly. Mae rhaid i chi hefyd fod yn barod i wneud pethau am hwyl a sbri trwy'r haf i gyd. Mae'r plant yn dwli arno fe pan mae staff yn gwneud pethau twp! Beth ydych yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol?
Dwi naill ai'n mynd i wneud Camp America eto yr haf nesa, neu dwi'n meddwl am fynd i Sbaen i fod yn westeiwraig mewn gwesty.
 |