BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hwlffordd
Judith WilliamsHoli Judith
Sarah Williams yn holi ei mam Judith Williams o Hwlffordd a enillodd gystadleuaeth Paratoi Deunydd ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau, 2007.

Enw:
Judith Williams

Byw:
Hwlffordd

O ble dych chi'n dod yn wreiddiol?
O Goed Duon, yn Sir Fynwy.

Beth yw eich swydd chi?
Athrawes Ffrangeg a Sbaeneg yn Ysgol Aberdaugleddau.

Ers faint dych chi'n dysgu Cymraeg?
Ers pum mlynedd.

Pam wnaethoch chi ddewis dysgu Cymraeg?
Cymraes dw i, sy'n byw yng Nghymru, felly dwi eisiau siarad iaith fy ngwlad. Hefyd, dwi'n hoffi astudio ieithoedd a phan roeddwn yn yr ysgol doedd dim cyfle i ddysgu Cymraeg.

Mwynheuoch chi'r Eisteddfod?
Do, dwi'n mwynhau'r Eisteddfod bob blwyddyn, cwrdd â ffrindiau ac mae yna awyrgylch da yno bob tro. Dwi'n mwynhau yn arbennig seremoni'r Cadeirio.

Esboniwch am y wobr y gwnaethoch ei hennill.
Roedd rhaid i mi ysgrifennu tair deialog ar gyfer Lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Enillais dystysgrif , £75, a geiriadur Cymraeg. Gofynnais i'r Archdderwydd, Selwyn Iolen, i arwyddo fy ngeiriadur!

Am beth ysgrifennoch chi?
Ysgrifennais am sefyllfa mewn tŷ bwyta, sgwrs rhwng Tony Blair a Gordon Brown, ac yn olaf dychan am Bobol y Cwm.

Pam ddewisoch chi'r gystadleuaeth hon?
Dwi'n mwynhau ysgrifennu storïau byr yn Saesneg, a phenderfynais gystadlu am hwyl.

Beth arall dych chi wedi bod yn ei wneud yn ystod yr haf?
Es i i Lundain i weld y sioe Blood Brothers. Arhosais gyda fy Mam yng Nghoed Duon ac ymlaciais yn Sir Benfro.

Beth dych chi'n meddwl sydd wedi eich helpu wrth ddysgu Cymraeg, heblaw am ddosbarthiadau?
Dwi'n siarad gyda fy merch yn y Gymraeg, gwylio Pobol y Cwm a darllen cylchgronau.

Oes yna gynnydd yn y defnydd o Gymraeg yn Sir Benfro yn eich barn chi?
Ydy, dwi'n byw yma ers ugain mlynedd a dwi wedi sylwi ar gynnydd mawr.

  • Holi Sarah Williams
  • Mwy o Hwlffordd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lluniau
    Radio Cymru
    Natur


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy