| Proffil Sarah Williams Enw Llawn
Sarah Louise Williams Oedran 21 Prifysgol Aberystwyth Pwnc
Cymraeg a Hanes Diddordebau
Dwi wrth fy modd yn mynd i Gaerdydd i wylio'r rygbi. Hefyd dwi'n hoff iawn o siopa, mynd allan gyda ffrindiau, chwarae badminton a chadw'n heini yn gyffredinol. O le ti'n dod yn wreiddiol?
Hwlffordd I ba ysgolion est ti?
Ysgol Gynradd Prendergast ac Ysgol Uwchradd Sir Thomas Picton, Hwlffordd. Wyt ti'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu wyt ti wedi dysgu?
Dwi wedi dysgu'r Gymraeg fel ail iaith trwy wneud Lefel A yn yr ysgol, mynychu CYD yn Hwlffordd, a gwylio rhaglenni S4C. Erbyn hyn dwi ddim yn ystyried fy hunan fel dysgwraig. Beth wyt ti'n feddwl am y Gymraeg yn ardal Sir Benfro?
Dwi'n meddwl bod Cymraeg yr ardal yn cryfhau wrth i amser fynd yn ei flaen. Er nad yw pawb yn siarad yr iaith o bell ffordd yn Hwlffordd, dwi wedi cael fy moddhau wrth glywed mwy o bobl yn defnyddio'r iaith yn ddiweddar. Mae cyrsiau Cymraeg yn boblogaidd ymysg oedolion sy'n arwydd da gan fod llawer o'r rheini yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg - hyn sy'n bwysig ar gyfer dyfodol yr iaith yn yr ardal. Beth wyt ti'n feddwl am y Gymraeg yn y Brifysgol?
Dwi'n mwynhau dros ben yn y Brifysgol. Yn bendant ers bod yn Aberystwyth dwi wedi llwyddo i feistroli'r iaith yn llwyr. Dwi'n hoff iawn o'r gigs Cymraeg yno ac mae digon o dafarnau Cymraeg i'w cael yno hefyd! Dwi wedi cwrdd â phobl o bob cornel o Gymru ac wedi gwneud ffrindiau da. Beth ydy dy gynlluniau di dros yr haf?
Ar wahân am wirfoddoli i bapur bro Dan y Lansker mae gen i swydd rhan amser mewn siop yn Hwlffordd er mwyn ennill ychydig o arian cyn i fi fynd yn ôl i'r Brifysgol am fy mlwyddyn olaf. Dwi wedi bod yn gwneud profiad gwaith gyda'r adran Gymraeg yn Ysgol Sir Thomas Picton hefyd er mwyn imi gael profi bywyd athrawon! Dwi wedi mwynhau gwneud hyn yn fawr. Wyt ti'n mynd ar wyliau?
Dwi wedi bod yn Ffrainc am wythnos gyda fy nghariad. Es i i ardal Bordeaux achos mae teulu gennai yn byw yno. Roedd y tywydd yn braf a mwynheais i mas draw. Ym mis Awst dwi'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug. Dwi'n edrych ymlaen at hynny'n fawr iawn. Beth hoffet ti ei wneud fel gyrfa?
Ar hyn o bryd dwi ddim yn siŵr beth hoffwn wneud. Ar ôl gwneud profiad gwaith yn Sir Thomas Picton efallai hoffwn fod yn athrawes Gymraeg. Yn sicr dwi am wneud rhywbeth sy'n cynnwys siarad Cymraeg. Byddai'n neis dysgu'r iaith i bobl eraill achos byddwn yn gallu uniaethu â hwy. Ar y llaw arall mae diddordeb gyda fi yn y cyfryngau felly mae swydd yn gweithio i S4C yn apelio ataf hefyd. Byddwn i wrth fy modd yn trefnu'r is-deitlau ar gyfer Pobol y Cwm er enghraifft. Kirsty Jones yn holi Sarah Williams.
 |