Trefnodd Hywel Jones wibdaith 5 diwrnod o'r fro i tua 20 o bobl i Turkey & Tinsel i Barc Gwledig y Trosasachs yn yr Alban. Taith tua 600 milltir o Landeilo. Sefyll yng ngwesty'r Rob Roy - efe oedd Twm Siôn Cati'r Alban. Yn ôl hanes, fe wnaeth sefyll yn yr adeilad yn ystod ei deithiau. Yn ystod y wibdaith, fe wnaethom fwynhau mordaith mewn bad ar Loch Lomond, ymweld â distyll chwisgi enwog Glengoyne a'i flasu, ymweld â thref wlân enwog Callender ble oedd yna amrywiaeth o ddillad gwlân o safon uchel ar werth am bris rhesymol, pentref a chanolfan groeso'r Trossachs yn Aberfoyle, diwrnod cyfan i ymweld â'r brifddinas Caeredin. Roedd adloniant traddodiadol bob nos yn y gwesty hyd ganol nos, talodd Siôn Corn ymweliad un noson gan roddi anrheg i bob un ohonom. Cafodd pawb eu plesio yn enwedig am y pris rhesymol o £159 yr un.
 |