Cynhaliwyd noson gymdeithasol i ddathlu pen-blwydd Ysgol Llansadwrn yn 150 oed. Er gwaetha'r tywydd, daeth nifer fawr o gyn-ddisgyblion a ffrindiau'r ysgol ynghyd i fwynhau barbeciw ac adloniant. Trefnwyd arddangosfa ddiddorol o luniau a oedd yn olrhain hanes yr ysgol. Derbyniwyd nifer o eitemau ar gyfer yr ocsiwn gan grefftwyr lleol, yn cynnwys print o lun gan Aneurin Jones, Aberteifi i nodi ei gysylltiad teuluol â'r ardal. Cafwyd amrywiaeth o adloniant gan blant yr ysgol, cerddorion lleol ac uchafbwynt y noson oedd gwrando ar ddau emyn traddodiadol gan gyn-ddisgybl sef Lavinia Thomas, enillydd Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol 1989. Llywydd y noson oedd y Cynghorydd Tom Theophilus, a chafwyd araith gefnogol iawn ganddo. Ar ddiwedd noson lwyddiannus dros ben, roedd coffrau'r ysgol wedi elwa o £1,450, swm a fydd yn gymorth mawr i sicrhau chwarae teg i bob plentyn o safbwynt adnoddau a chyfleoedd. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd. Ffarweliwyd â Gwenllian sydd yn trosglwyddo i Ysgol Pantycelyn, ac i Bron a Frances sydd yn mynd i Ysgol Tregib. Diolchwn iddynt am eu cyfraniad i fywyd Ysgol Llansadwrn, a dymunwn bob llwyddiant ac hapusrwydd iddynt yn y dyfodol.
 |