| Y tro yma, mentrwyd i Gynffig a'r Sgêr ar yr arfordir rhwng Margam a Phorthcawl. Mae'n le unigryw: llyn enfawr, twyni tywod, castell ac olion hen bentre, un o gartrefi hynodaf Gymru ac arfordir a thraethau braf, ac eto ychydig a wyddom amdano. Cafwyd hanes yr ardal gan Ann Rosser, Y Gellifedw a chyflwyniad i fywyd gwyllt gan Dafydd ac Elen Richards, Castell-nedd. Wyth gan mlynedd yn ôl yr oedd Cynffig yn fwrdeistref prysur gyda muriau yn ei hamgylchynu ac yn ganolfan i'r wlad o gwmpas. Mae olion hen gastell Normanaidd de Clare yma hefyd. Llosgwyd y cyfan i lawr gan y Cymry yn 1167 ac yn ddiweddarach gan Owain Glyndwr. Ond y tywod a orfu ac yn yr 16fed ganrif daeth storom fawr a gorchuddio'r dref. Mae un chwedl arall yn adrodd mai o dan y llyn ei hun mae'r dref (fel Cantre'r Gwaelod). Diddymwyd siarter y bwrdeistref yn 1883, a heddiw nid oes yn aros o'r gogoniant a fu, ond cyfarfodydd y Cyngor Plwyf, a gynhelir mewn ystafell uwchben tafarn y Prince of Wales, a oedd unwaith yn ganolfan gweinyddol y bwrdeistref. Tan 1970 cynhaliwyd Ysgol Sul yma. Tra'n cerdded i gyfeiriad Y Sger cawsom hanes y garwriaeth enwog rhwng y Ferch o'r Sger, Elizabeth Williams (1747-76) a'r telynor tlawd, Thomas Evans. Cariad ofer ydoedd a gorfodwyd y ferch i briodi Thomas Kirkhouse, diwidiannwr cefnog ond anniddorol o Gastell-nedd. Gyda llaw, mae'r stori'n debyg iawn i hanes y Ferch o Gefn Ydfa. Flynyddoedd ar ôl iddi briodi cyfansoddodd Thomas Evans y faled enwog: "Mab wyf fi sy'n byw dan benyd Am f'anwylyd fawr ei bri..." Mae arfordir garw yma hefyd a chafwyd hanesion am yr arfer o wreca, neu ysbeilio'r llongau a ddrylliwyd.  Wedi taith hynod o ddiddorol cafwyd pryd o fwyd blasus yn y Prince of Wales. Diolch i Ann Rosser ac Alun Pugh o'r Fenter laith am yr holl baratoi. Bwriedir sefydlu Clwb Cered cyn bo hir a threfnir teithiau rheolaidd i bob oed. Bydd y manylion yn ymddangos yn y Llais yn fisol.
 |