Fe gafodd holl waith gwirfoddol Miss Kirsty Jones ei gydnabod yn ddiweddar mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd y seremoni yn y Castell, a'r mudiad oedd yn gyfrifol amdano oedd Cyngor Cymru Dros Weithgareddau Gwirfoddol. Cyflwynwyd i Kirsty yr anrhydedd o fod yn 'Gwirfoddolwr Blwyddyn 2009' dros Gymru Gyfan. Mae Kirsty yn llawn deilwng o'r anrhydedd, gan iddi gyflawni 400 o oriau o'i gwirfodd yng nghanolfan HWB yn Ystalyfera. Roedd ei gwên siriol a'i pharodrwydd i helpu wedi creu argraff dda ar bawb oedd yn gwneud defnydd o'r ganolfan. Llongyfarchiadau mawr i Kirsty am ei chyfraniad gwerthfawr i fywyd yr ardal. Gymaint yn dlotach fyddai'n cymunedau heb bersonau ifanc ac ymroddgar fel Kirsty, sy'n barod i roi o'i hegni a'i hamser er lles eraill. Mae Kirsty nid yn unig wedi dod â chlod i'w rhieni, sef Kathy a Morlais, ac i'w chwaer Michelle, ond i ni fel cymuned ac rydym yn falch iawn ohoni, a llawenhawn yn ei llwyddiant. Ardderchog yn wir.
 |