BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Hanes un a fagwyd yn y ddinas
Emyr James yn rhannu ychydig o'i brofiadau yn tyfu lan yng Nghaerdydd.
Er fy mod i wedi byw yng Nghaerdydd am fy mywyd i gyd, bron a bod, fe gefais i fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr gwaetha'r modd. Peidiwch â chamddeall, does dim byd gen i yn erbyn Pen-y-bont, mae'n dref ddigon braf, ond mae'n golygu nad ydw i'n gallu dweud 'I'm Cardiff born and I'm Cardiff bred' heb ddweud celwydd!

Mae'r profiad o gael fy magu yn y ddinas, ac yn arbennig yn y brif ddinas, wedi bod yn un diddorol iawn. Mae natur cosmopolitaidd Caerdydd yn ei hanfod yn cynnig profiadau a chyfleon na ellid eu cael mewn rhannau eraill o Gymru.

Y lle gorau i dyfu lan
Rwy'n byw mewn maestref o'r enw Yr Eglwys Newydd sydd rhyw bum milltir o ganol y dref, allwn i ddim fod wedi gofyn am le gwell i dyfu lan. Roedd yn ddigon agos imi allu cerdded i'm hysgolion cynradd ac uwchradd, roedd y pentref yn ddigon agos hefyd, mae parc chwarae ar ben fy stryd ac roedd fy ddau ffrind gorau yn byw dros yr heol a rownd y gornel. Mae hyd yn oed yn bosib cyrraedd gwarchodle natur a rhai caeau wrth gerdded dim mwy na ugain munud o'r tŷ. Wrth inni dyfu i fyny fe gefais i a'm ffrindiau dipyn o hwyl yn mynd ar anturiaethau yno ac adeiladu llochesau yng nghanol y coed.

Wrth fynd yn hŷn dechreuodd canol y ddinas apelio'n fwy. Fe dechreuon ni i gyd sglefr fyrddio a byddech yn ein gweld ni'n aml yn ymgasglu ger neuadd y ddinas neu gyferbyn â gwesty'r Hilton. Mae'n brofiad rhyfedd cerdded heibio'r llefydd hynny nawr a gweld cenhedlaeth newydd o blant yn gwneud yr un pethau ag oeddem ni'n ei wneud, gyda'r heddlu yn dal i geisio eu symud nhw ymlaen i rywle arall.

Rwy'n dal i deimlo'n gryf mai'r unig ffordd y gellid cadw plant oddi ar y strydoedd yw trwy adeiladu cyfleusterau cyfleus iddynt, er enghraifft parc Sglefr fyrddio. Un o fy nghas bethau am y ddinas yw wrth i'r lle ddatblygu, mae'r ddarpariaeth ar gyfer rhai haenau o'r gymdeithas yn cynyddu'n eithriadol, tra fod diffyg mawr yn y ddarpariaeth i eraill.

Yn ystod misoedd yr Haf, pan roedd hi'n ddigon heulog, bydden ni'n treulio tipyn o amser yng nghaeau tir y castell neu lawr wrth yr afon Taf. Mae'n ardal braf iawn, efallai y lle gorau i fod yng Nghaerdydd ar ddiwrnod crasboeth, yn arbennig gan fod fan hufen iâ yno i ddarparu i anghenion pawb!

Canol y ddinas v Y Bae
Mae'n drueni mewn ffordd ein bod ni wedi tyfu heibio'r pwynt hwn ac i'r oedran hynny lle yr unig beth sydd ar feddwl pobl yw mynd allan i feddwi'n racs.

Mae Caerdydd yn cynnig llwyth o lefydd gwahanol a diddorol i fynd allan, mae tomenni o 'Wetherspoons' gwahanol bellach a bar at bob dant. Dros y blynyddoedd fe es i a'm ffrindiau trwy gyfnodau o fynd i'r un llefydd noson ar ôl noson, wythnos ar ôl wythnos; bariau a chlybiau fel Yr Hen Fynach, Y Llyffant, Esblygiad, Dylans a Zeus. Gyda llaw, peidiwch mynd i edrych am y llefydd yma oherwydd maent i gyd yn gweithredu o dan enwau a pherchnogaeth newydd bellach!

Ond er yr hwyl rydym ni wedi cael yn mynd allan yma, os ydw i'n gwbl onest, allai ddim dioddef canol dinas Caerdydd ar nos Wener neu nos Sadwrn. Mae gormod o bobl a gormod o ymladd yn digwydd. Mae llawer gwell gen i'r naws sydd i'w gael yn y bae bellach, ond gwaetha'r modd mae'r ardal honno ychydig tu hwnt i fy nghyllid personol i!

Dros y blynyddoedd mae Caerdydd wedi newid tipyn. Ar un adeg dim ond cwpl o sinemâu oedd yno, i gyd yng nghanol y ddinas. Bellach mae pedwar multiplex wedi agor yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Mae hynny'n golygu bod dros 40 o sgriniau ar gael i'ch diddanu bob dydd! Mwy na digon os chi'n gofyn i fi.

Yn wir, un o'r pethau gorau am Gaerdydd yw bod rhywbeth yma at ddant pawb, bron a bod. Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn orlawn o bethau anhygoel, ac mae Canolfan y Mileniwm yn hafan i unrhyw un sy'n hoff o gerddoriaeth.

Tu hwnt i Gaerdydd
Rwy bellach wedi gorffen fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych mewn nifer o ffyrdd. Mae'n syndod mor wahanol yw bywyd tref i fywyd y ddinas. Mae'n dipyn rhwyddach i weld pobl chi'n nabod ar y stryd, ac mae'r ffaith eich bod chi'n gallu cerdded i bobman yn gwneud bywyd yn dipyn rhwyddach!

Mae mynd i'r Brifysgol hefyd wedi caniatáu imi fynd i aros gyda rhai o'm ffrindiau newydd mewn ardaloedd dydw i ddim yn gyfarwydd â nhw. Bellach, rhai o'm hoff lefydd i yng Nghymru yw Llandudoch a Llanuwchllyn; pentrefi bach, croesawgar, lle mae pawb yn nabod pawb. Mae hyn yn beth sydd mor wrthun imi, mae'n apelio'n fawr.

Sefyllfa'r Gymraeg
Mae hefyd wedi fy nharo mor wahanol yw sefyllfa y Gymraeg yn y llefydd hyn. Fel rhywun o Gaerdydd, mae'r syniad o fyw bywyd bob dydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn un rhyfedd. Ag eithrio rhai cymunedau arbennig, bywyd teuluol ac ysgol wrth gwrs, nid yw'n bosib i Gymry Cymraeg Caerdydd i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg. Mae wedi bod yn braf ymweld â llefydd lle mai'r Gymraeg sydd i'w glywed gan fwyaf, a lle gellid dechrau bron bob sgwrs drwy gyfrwng fy iaith.

Beth am y dyfodol?
Mae'r cwestiwn felly yn codi beth wnaf i wedi imi raddio? Nawr fy mod i wedi cael blas ar fywyd dinas, tref a pentref, p'un sydd well da fi? Lle ydw i am ffeindio swydd? Lle ydw i am fagu plant? Lle ydw i am ymddeol? Mae'r profiadau sydd i'w cael yn y llefydd yma i gyd mor wych ac mor wahanol, hyd yn hyn dydw i ddim wedi gallu ateb un o'r cwestiynau hyn.

  • Mwy am Gaerdydd ar wefan arbennig yma.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy