Fideo: Non a Lowri yn sôn am eu tref a'u hardalBywyd cymdeithasol
Mae bywyd cymdeithasol Hwlffordd yn weddol dda ar gyfer pobl ifanc yn y nosweithiau, oherwydd bod nifer ohonynt yn hoffi mynd i dafarnau a chlwbiau nos.
Mae nifer fawr o dafarnau a sawl clwb nos yn y dref, gyda un yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifainc bob nos Sadwrn. Mae hefyd nifer o fwytai, gyda gwahanol mathau o fwydydd - Tseineaidd, Indian, Americanaidd, neu fwyd o Gymru, ac mae'r rhain yn safonol iawn ac yn llefydd da i fynd i gael pryd o fwyd gyda'ch ffrindiau.
Ffordd arall poblogaidd iawn o gymdeithasu yw trwy Clwb Ffermwyr Ifainc, oherwydd rydw i a Non yn 'nabod sut gymaint o bobl dros Sir Benfro drwy'r Clybiau Ffermwyr Ifainc, ac yn mwynhau cwrdd â'r bobl yma yn gyson i gymdeithasu. Rydyn ni'n cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau, ond nid rhai seriws yn unig, rhai sy'n llawn hwyl hefyd, ac mae llawer o ddawnsiau yn cael eu cynnal trwy'r flwyddyn, gyda phawb yn gwneud yr ymdrech i fynd bob tro.
Sioe Amaethyddol Sir Benfro
Mae Sioe Sir Benfro yn uchafbwynt yng nghalendr nifer o bobl ifanc, oherwydd bod nifer fawr o bobl yn mynd yno bob dydd, ac hefyd yn aros yno gyda'r nos. Mae pawb yn dod â tent neu garafan fel eu bod nhw'n gallu llusgo eu hunain yno ar ôl cael gormod i yfed!
Mae nifer o atyniadau yn y dydd, gyda stondinau gwahanol, cystadlaethau, anifeiliaid, sioeau yn y prif gae, nifer fawr o bethau sy'n diddori pawb yn y dydd. Ac erbyn y nos, bydd pob un o'r bobl ifanc yn casglu gyda'i gilydd er mwyn dathlu llwyddiannau'r dydd, ac yn gyffredinol yn cael hwyl ar ôl y gwaith caled a chafodd ei wneud yn dangos anifeiliaid, y ffermwyr ifanc, a'r bobl fu'n edrych ar ôl stondinau ac yn y blaen. Rydw i a Non yn dangos gwartheg yn y Sioe, ac felly'n aros ar y maes trwy gydol y Sioe, rydym yn mwynhau gwneud hyn oherwydd fod llawer o'n ffrindiau yn dod, ac mae llawer ohonynt yn gwneud yr ymdrech i ddod bob blwyddyn.
Yr iaith Gymraeg
Yn anffodus, does dim llawer o siaradwyr yr iaith Gymraeg yn bodoli yn Hwlffordd oherwydd y ffaith ei bod hi'n dre yn ne'r Sir sydd yn weddol Seisnigaidd. Ond wedi dweud hyn, rydyn ni yn gweld yr iaith yn cynyddu mewn statws, gyda llawer fwy o blant yn siarad yr iaith oherwydd yr ysgol gynradd Gymraeg yn Hwlffordd - Ysgol Glan Cleddau. Rydw i'n credu fod y iaith yn dechrau mynd yn fwy ffasiynol ymysg rhieni Saesneg.
Yn cerdded trwy strydoedd Hwlffordd, mae e'n weddol annhebygol y byddwch chi'n clywed Cymraeg, ond mae rhyw faint yn cael ei chlywed gan y bobl hynny sy'n dod i Hwlffordd am y dydd o ogledd y Sir, a hefyd y plant sy'n mynd i Ysgol Y Preseli wrth gwrs - yr unig Ysgol Uwchradd gwbl Gymraeg yn Sir Benfro.
Mae'r iaith yn dod yn fwy poblogaidd ymysg pobl ifanc, gyda nifer fawr o bobl fy oedran i yn ceisio dysgu'r iaith. Ac yn y Clwb Ffermwyr Ifainc, yn ffodus, mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg, felly mae llawer o gymdeithasu yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Chwaraeon
Mae yna lawer o glybiau chwaraeon yn y dref yn cynnwys rygbi, pêl droed, tennis a nofio. Ceir clybiau nos yma a meysydd chwarae i'r cyhoedd er enghraifft cyrtiau tennis cyhoeddus. Er ein bod ni'n dwy ddim yn dilyn un tîm chwaraeon penodol rydym yn ymwybodol bod gan ardal Hwlffordd dimau llwyddiannus iawn.
Mae tîm pêl-droed y "Bluebirds" yn boblogaidd iawn ac wedi chwarae ar raddfa Cymru lawer tro. Ceir hefyd y tîm rygbi lleol sydd ag enw da iawn ac mae yma hefyd dimau ieuenctid sy'n boblogaidd dros ben ac yn chwarae'n llwyddiannus bob tymor. Clywir yn aml hefyd am y timau dartiau sy'n cyrraedd top y gynghrair yn rheolaidd. Mae timau hoci, pêl-rwyd a chriced yma hefyd.
Mae gan ysgol Tasker Milward dome enfawr ar gyfer chwaraeon sy'n defnyddio cyrtiau, ceir sawl cwrt tennis, badminton, pêl rwyd a phêl fasged. Er mai i'r ysgol y mae yn bennaf gall y cyhoedd fynd yno yn yr hwyr ac ar benwythnosau fel mae Lowri a finnau wedi gwneud sawl gwaith. Yn ysgol Syr Tomos mae maes astro-turf ar gyfer pob tywydd ac yna yng Ngholeg Sir Benfro mae 'na gampfa i gadw'n heini sy'n boblogaidd iawn. O amgylch y dref mae llwybrau reidio beic er mae'n rhaid i bawb gadw'n ddiogel.
Clwb Ffermwyr Ifanc
Rydw i a Lowri yn aelodau brwdfrydig o'r clwb ffermwyr ieuanc lleol sef clwb "Tiers Cross" sydd ryw bedair milltir o'r dref. Fel y gŵyr aelodau'r sir does dim llawer o amser sbâr pan fyddwch yn aelod o glwb, efo'r holl weithgareddau sydd ar gael o un penwythnos i'r llall, allan yn Hwlffordd ar nos Sadwrn yw'r gyrchfan olaf! Ceir mwy o sbri yng nghwmni ieuenctid o'r wlad!
Lleolir prif Swyddfa'r ffermwyr ifanc yn Hwlffordd lle mae Dil Williams, trefnydd y sir yn gweithio'n ddi-stop o ddydd i ddydd. Defnyddiol iawn yw'r swyddfa yma gan fy mod i eleni yn ysgrifennydd y clwb ac felly fy nghyfrifoldeb i yw dosbarthu ffurflenni ar gyfer cystadlaethau o bob math i'r swyddfa. Yn Hwlffordd y cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd a'r cystadlaethau sirol hefyd felly mae hyn yn gyfleus iawn i ni.
Twristiaid
Trwy gydol y flwyddyn gwelir llond lle o dwristiaid yn Hwlffordd rhai yn aros ac eraill ar eu taith i Abergwaun i ddal fferi i'r Iwerddon, rhai eraill yn mynd i aros ar yr arfordir neu draw i ardal nawddsant Cymru. Mae yma nifer o westai moethus a phan cynhelir gwahanol weithgareddau yn y dre maent yn orlawn.
Ym mis Awst mae Sioe'r Sir ar faes awyr Llwynhelyg ac yma daw 120,000 o bobl yn ystod tridiau'r sioe ac yn rhoi miliynau i fewn i'r economi lleol. Mae afon Cleddau a'i phrydferthwch yn atyniad hefyd a'r hen gastell yn y dre.
Yn aml gwelir bysiau llawn yn galw yn y dre am bryd o fwyd neu i siopa tipyn. Yn gyharach eleni agorwyd Canolfan Dwristiaeth newydd sbon ar gyrion y dre i gynorthwyo pobl sy'n dod i'r dref a'r sir ar eu gwyliau.
Gan Lowri Fflur Davies a Non Thorne o Steynton ger Aberdaugleddau.