BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Castell CochWyddech chi hyn?
Wyddech chi mai Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop? Ac mai o borthladd Caerdydd yr hwyliodd Robert Scott ar y Terra Nova i'r Antartig. Isod gweler 54 o ffeithiau diddorol am Gaerdydd, prifddinas Cymru.
  • Yn wreiddiol, cafodd Caerdydd ei hadnabod fel Winding Creek.

  • Ychydig dros 200 mlynedd yn ôl y dechreuwyd galw'r lle yn "Caerdydd". Cyn hynny Caerdyf oedd yr enw - cyfuniad o Caer a Tyf; ffurf ar enw'r afon Taf. 'Caer ar yr afon Taf', felly, gyda'r ffurf Saesneg 'Cardiff' yn nes at y 'Caerdyf' gwreiddiol na'r ffurf Gymraeg newydd (ynganwch Caerdyf gan roi sain Saesneg i'r f).

  • Dim ond ym 1955 y daeth Caerdydd yn brifddinas Cymru. Hi yw prifddinas ieuengaf Ewrop.

  • Y mae Caerdydd wedi'i henwi'n ganolfan ddiwylliant ar ôl iddi fynd ar y rhestr fer am Brifddinas Ddiwylliant Ewrop 2008.

  • Dim ond yn 1905 yr enillodd Caerdydd ei siarter dinesig.

  • Yr oedd y gŵr a gynlluniodd y rhan newydd o Gastell Caerdydd, William Burges, yn cynllunio coleri cŵn, tebotiau a photiau pisho hefyd - heb sôn am gynllunio Cadeirlan Cork yn Iwerddon.

  • Daeth y Rhufeiniaid i Gaerdydd yn 76OC.

  • Daeth Caerdydd i fri yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel porthladd glo.

  • Gyda dim ond mil o boblogaeth yn 1801 yr oedd 164,000 yn byw yno erbyn 1901 - ond nid bridio wnaethon nhw ond symud i mewn!

  • Mentrodd Ail Ardalydd Bute ei holl gyfoeth ar ddatblygu dociau Caerdydd - a thalodd ei fenter ar ei ganfed iddo. Pan oeddynt ar eu mwyaf ffyniannus, oddi yma yr allforiwyd 45 y cant o lo Cymru.

  • Ar ei anterth, porthladd Caerdydd oedd y porthladd glo a haearn mwyaf yn y byd ond daeth hynny i ben yn 1939.

    Cofeb Capten Scott ym mae Caerdydd gan Wil Morgan

  • Y mae goleudy ym Mharc y Rhath Caerdydd i goffau'r ffaith mai o borthladd Caerdydd yr hwyliodd Robert Scott ar y Terra Nova i'r Antartig. Mae cofeb iddo ym Mae Caerdydd heddiw hefyd.

  • Am ganrifoedd yr oedd Llandaf yn dref farchnad annibynnol ond yn awr yn rhan o Gaerdydd.

  • Ymsefydlodd Teilo Sant yma yn y chweched ganrif.

  • Ar wahân i Eglwys Gadeiriol Coventry, Cadeirlan Caerdydd yw'r un a ddioddefodd fwyaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

  • Un o atyniadau pennaf y Gadeirlan erbyn hyn yw cerflun Jacob Epstein o'r Crist.

  • Does yna yr un ferch yn cael ei choffau ymhlith y cerfluniau o Gymry amlwg yn Neuadd y Ddinas. Ymhlith y dynion o fri mae Dewi Sant, Glyndŵr, Gerallt Gymro, Hywel Dda a Llywelyn ap Gruffydd.

    >

  • Ym 1917, daeth Caerdydd yn un o'r lleoedd cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio gyrrwyr tacsi benywaidd.

    Y cynllunydd gerddi Capability Brown a gynlluniodd Barc Bute - yn 1777.

  • Wedi pesgi ar lo yr oedd teulu Bute ymhlith y cyfoethocaf ym Mhrydain gyda chartrefi yn yr Alban a Sbaen hefyd.

  • Agorwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd ym 1949 ac, ym 1978, agorwyd yr ysgol gyfun Gymraeg gyntaf o'r enw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

  • Ym 1883, sylfaenwyd Prifysgol Gaerdydd gan y Siarter Brenhinol.

  • Prifysgol Caerdydd yw prif ddarparwr addysg ar gyfer oedolion yng Nghymru.

  • Y mae papur newydd The Guardian wedi rhestru Caerdydd fel un o leoedd rhatach i astudio yn y DU.

  • Agorwyd y rhan gyntaf o'r Brifysgol ym Mharc Cathays ym 1909 - ac yr oeddan nhw'n dal i ychwanegu adeiladau sylweddol yno yn y 1960au.

  • Cysegrwyd y Deml Heddwch ym Mharc Cathays yn 1938 ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.

    Gerddi SofiaYng nghanol y Ganolfan Civic, y mae cerflun senotaff i goffáu'r milwyr fu farw yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf.

  • Y mae yna dros 2,500 erw o dir glas o fewn ffiniau tref Caerdydd.

  • Y mae'r parc lle cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd 2002 yn ymestyn bedair milltir o furiau'r castell yr holl ffordd i Landaf.

  • Un o'r caneuon enwocaf am Gaerdydd ydi 'I'm Cardiff born, I'm Cardiff bred/ And when I'm gone I'll be Cardiff dead' gan yr Hennessys.

  • Yng Nghaerdydd y ganwyd y nofelydd Saesneg, Howard Spring. Dechreuodd weithio mewn siop gigydd. Wedyn, bu'n glerc ar y South Wales News gyda'r golygydd yn talu am ddosbarthiadau nos iddo yn y Brifysgol.

  • Ganwyd David Ivor Davies yn Ffordd y Bont-faen - daeth i enwogrwydd fel Ivor Novello.

  • Newidwyd enw Villa Marie yn Fairwater Road lle ganwyd Roald Dahl yn Tŷ Gwyn.

  • Nofelydd arall a fu'n byw yng Nghaerdydd yw Jack Jones a symudodd o Ferthyr i fyw uwchben siop esgidiau yn Rhiwbeina. Gwelir cofeb iddo yn y llyfrgell leol.

  • Cafodd Benny Hill ei gymryd i'r ddalfa gan heddlu milwrol wrth ddrws y Theatr Newydd am beidio ag ymateb i alwad i ymuno â'r lluoedd arfog.

  • Yng Nghaerdydd y bu T. Rowland Hughes yn byw tra'n gynhyrchydd gyda'r BBC rhwng 1935 a 1945 ac yma y cyfansoddodd nofelau fel O Law i Law.

  • Ymwelodd John F Kennedy â Chaerdydd cyn iddo fod yn Llywydd America. Arhosodd yng Nghastell Sain Donat a mynychodd wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant.

  • Ym 1982, Y Pab John Paul II oedd y Pab cyntaf i ymweld â Chymru.

  • Ar ôl tafarn yr enwyd maes rygbi enwog Caerdydd, Maes yr Arfau - y Cardiff Arms.

  • Enwyd ffilm ar ôl un rhan o'r dinas, Tiger Bay gyda John Mills a'i ferch Hayley yn cymryd rhan.

  • Y mae gan Gaerdydd y datblygiad bae mwyaf yn Ewrop.

  • Efeilldref Caerdydd ydi Nantes yn Ffrainc ac y mae yna Boulevard de Nantes yn y Brifddinas.

  • Un o'r arwyddion cyntaf y mae teithwyr trên o'r dwyrain yn ei weld wrth gyrraedd Caerdydd ydi, "It's Brains you want."

  • Gellir gweld ôl troed deinosoriaid yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

  • Mae gan yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd un o gasgliadau o Argraffiadaeth gorau yn Ewrop y tu allan i Baris.

  • Sain Ffagan yw un o amgueddfeydd awyr-agored mwyaf Ewrop.

  • Ym 1909, arweinwyd y grŵp a oedd yn gyntaf i gyrraedd y South Magnetic Pole gan Syr Edgeworth o Sain Ffagan.

  • Y mae gwaith Iolo Morganwg i'w weld ar dŵr eglwys Fair yng nghanol y ddinas.

  • Codwyd £1,338,788 gan y cyngerdd i godi arian ar gyfer dioddefwyr y Tsunami ym mis Ionawr. Y mae'r cyngerdd, a dynnodd mwy na 60,000 o bobl wedi cael ei ddathlu fel sioe elusen mwyaf ym Mhrydain ers cyngerdd Live Aid ym 1985.

  • Stadiwm y Mileniwm yw'r stadiwm o dan do mwyaf yn Ewrop.

  • Ers agoriad y Stadiwm ym mis Mehefin 1999, bu'n croesawi mwy na 1.3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

  • Cynhalwyd Gemau'r Gymanwlad VI yng Nghaerdydd am 8 dydd ym 1958 ac adeiladwyd Pwll Empire ar gyfer y digwyddiad.

  • Ym 1921, agorwyd y Sinema Capitol ar Heol y Frenhines a oedd y sinema mwyaf ym Mhrydain ar y pryd.

  • "Tref iawn," oedd disgrifiad Christopher Saxton o Gaerdydd - gan ychwanegu, "fel ag y mae trefi yn mynd yn y wlad hon."

    A oes gennych chi fwy o ffeithiau diddorol am Gaerdydd? Llenwch y ffurflen isod a gallwn eu harddangos yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy