Ai gwir yw'r gair? Ai gwir yw'r gair?
Y stori fwyaf yn y byd,
Y darlun yn y ffenestr liw
O'r baban yn ei isel grud
Creawdwr mawr y sêr a'r lli
Yma yn blentyn erom ni? Ai gwir yw'r gair? Cans os yw'n wir, Beth yw ein holl brysurdeb ffôl, A holl rialtwch gwag yr Ŵyl, Y rhoi a'r rhoi er cael yn ôl, Y paratoi â'r bysedd cu, Y rhoddion oll a'r cardiau lu.
Beth ydyw cariad teulu hoff, Neu garol yn yr eira gwyn? Beth ydyw sain y clychau pêr Gerbron yr un gwirionedd syn, Creawdwr mawr y sêr a'r lli Yn blentyn yma erom ni?
Morgan D Jones
 |