BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Bethan a CatrinLlwyddiant i'r Dylwythen Deg
Medi 2004
Llongyfarchiadau i Bethan Aur, o Ben-y-Fai ar ennill cystadleuaeth barddoni 10-12 oed yn Eisteddfod Yr Urdd, Ynys Môn eleni.

Daeth Bethan yn gyntaf allan o 181 o gystadleuwyr! Yng ngeiriau'r beirniad, Mr Dewi Jones, "Bu'n gystadleuaeth dda o ran nifer, amrywiaeth, ansawdd a safon. Ond yn y lle cyntaf mae Y Dylwythen Deg am ei darlun cynnil, cywrain, cofiadwy a gwreiddiol o frwydr y blodyn deniadol am le ar ein daear ddigroeso.

Dyma'r tro cyntaf erioed iddi gystadlu'n llenyddol. Yn wir, dyma'r tro cyntaf i Ysgol Bro Ogwr gystadlu a bu nifer helaeth o'r disgyblion yn llwyddiannus. Cafwyd noson wobrwyo i gyflwyno tystysgrif i bob plentyn gymerodd ran.

Dyma ran o'r gerdd fuddugol. (Mae'r gerdd yn ei chfanrwydd i'w gweld yn rhifyn mis Medi o'r Hogwr.)

Y Frwydr am Fywyd
Hedyn
fel gronyn tywod,
anweledig bron, anodd dala,
diymgeledd a gwan.
Ond
yn annibynnol,
yn reddfol,
yn benderfynol o fyw.

...

O'r diwedd
blodyn llachar, deniadol,
yn torheulo'n ffroenuchel
a'r frwydr ar ben.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy