BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
John RowlandsDyma John
Gwybodaeth am John Rowlands

Dyma John Rowlands:

  • Oed:
  • 53.


  • Gwaith a theulu:
  • Rhelowr Cysylltiadau Cyhoeddus gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru.

    Cynt, bu'n athro daearyddiaeth ac yn newyddiadurwr a chynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru.

    Mae'n ddiacon yng nghapel y Crwys, Caerdydd ac yn dad i dair merch, Elin, Gwenno a Mair.


  • Y Daith:
  • Mae y daith gerdded y daith brotest hiraf erioed ac yn cychwyn yn Iwerddon gan ymweld â'r Alban, Lloegr a Chymru a gorffen yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain.

    Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth am newid yn yr hinsawdd a galw ar y llywodraeth a busnesau mawrion i leihau eu gollyngiadau carbon a'u hôl traed carbon.

    Bydd 20 o bobl yn cerdded yr holl ffordd - 10 o bobl o'r gwledydd tlotaf, sydd yn gweld effaith uniongyrchol newid hinsawdd a 10 o wledydd Prydain gyda John yn cerdded ar ran Cymru.


  • Meddai John: "Rwyf wedi meddwl ers amser nad yw hi'n ddigon jyst i siarad am effeithiau newid hinsawdd.

    "Rwy'n cytuno â Chymorth Cristnogol fod Newid Hinsawdd yn fater o gyfiawnder byd-eang. Y mae ein tystiolaeth a'n consyrn ni dros eraill yn enwedig y tlawd a'r difreintiedig yn gallu gwneud gwahaniaeth a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

    "Y prif ysgogiad yw meddwl pa fath o fyd fyddai'n drosglwyddo i'm tair merch a'u cenhedlaeth hwy. "

  • I brif ddalen y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy