BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Bugail mewn drama geniGwefr y geni
Bardd yn canmol bendith a rhyfeddod y Nadolig
Bu'r bardd a'r llenor Gwyn Thomas yn sôn sut y mae rhyfeddod y Nadolig yn cael ei weld mewn cynyrchiadau o ddramâu'r geni ac yn niniweidrwydd y plant sy'n cymryd rhan.

Ar raglen foreol BBC Radio Cymru bu Gwyn Thomas yn siarad am gerdd o'i eiddo yn darlunio drama Nadolig a dywedodd wrth y cyflwynydd, Sian Parri Huws, bod llawenydd yr Wyl yn cael ei adlewyrchu hyd yn oed y dyddiau argyfyngus hyn.

gwrandoGwyn Thomas yn siarad am ei gerdd a dramâu Nadolig gyda Sian Parri Hughes, Rhafyr 18, 2008.


Hynny er bod ochr arw i'r dathlu hefyd:

"Mae yna lawenydd ac mae yna ryfeddod, mae yna gân angylion mae yna ogoniant - ond wedyn y mae Herod yn dod ac y mae o yn lladd y babanod - y cigydd hwnnw.

"Ac mae Herod yn enw sy'n sefyll dros rywbeth sydd yn ein byd ni o hyd," meddai.

Golygfa'r geni Ond yn niniweidrwydd plant gwel y bardd o hyd "rywbeth o ryfeddod a llawenydd y Nadolig cyntaf hwnnw - y gwir Nadolig".

"Mae'r Nadolig yna - ei ryfeddod, ei lawenydd a neges o gariad yn dal i fodoli, " ychwanegodd.

Oherwydd hyn, meddai, y mae stori'r geni yn parhau i'w wefreiddio.

"[Ym] mhlant pob oes mae yna ryw ddiniweidrwydd apelgar iawn . . . ac maen nhw yn gallu creu rhyw ryfeddod a llawenydd drwy eu diniweidrwydd," meddai.

"Mae rhyw wirioneddau yn cael eu datgelu a'u dangos ichwi yn y cyflwr hwnnw [o fod yn blant] ac mae'n dal i fod yn wir ac yn dal i fod yn rhywbeth sydd yn fy rhyfeddu i dro ar ôl tro ar ôl tro ac y mae yna yn y Nadolig a'r Pasg rywbeth rhyfeddol i mi drwy'r amser ac rwyf wedi trio canu am y ddau beth achos mae o'n cyffwrdd ynof i," meddai.

  • Cysur mewn dyddiau anodd - neges Nadolig

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy