BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
CroesSaith 'G' y Garawys
Gwasanaethau'r Garawys 2009 ar BBC Radio Cymru
Mae oedfaon Radio Cymru yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Pasg eleni wedi bod yn canolbwyntio ar saith 'G' y Garawys.

Mewn cyfres o wasanaethau amrywiol eu cynnwys a'u cyfeiriad diwinyddol, bu saith o offeiriaid a gweinidogion yn canolbwyntio ar saith gair yn hanes yr wythnos allweddol, olaf, honno ym mywyd Iesu Grist.

Gweddi - Garawys 1 (Mawrth 1):
Y Parchedig Ddr Eryl Wynn Davies o Lanfairpwllgwyngyll oedd yn arwain oedfa gyntaf y Garawys ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd gweddi yn ystod bywyd a gweinidogaeth Iesu Grist, ac felly ym mywyd pob Cristion.

gwrandoEryl Wynn Davies

Nid rhestr siopau o ddyheadau ddylai gweddi fod, meddai, ond gweithred ddyddiol, naturiol, sy'n dwyn y Cristion i berthynas agosach â'i greawdwr. Dyna sail Gweddi'r Teulu a ddysgodd Iesu i'w ddisgyblion.

Gwledd - Garawys 2 (Mawrth 8):
Canolbwyntiodd y Parchedig Casi Jones o'r Felinheli ar bwysigrwydd gwledda a chyd fwyta a chymdeithasu gyda'i ffrindiau ym mywyd Iesu Grist.

gwrandoCasi Jones

Yn naturiol, roedd y sylw'n dechrau wrth fwrdd y Swper Olaf yn yr oruwch ystafell y noson cyn croeshoelio Iesu ond mae cymdeithas yr Iesu â'i ffrindiau yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y Disgyblion am y ffordd y mae Duw yn gweithio ac ar waith yn y byd heddiw.

Y Gusan - Garawys 3 (Mawrth 15)
Canolbwyntioff y Parchedig John Owain Jones, Glasgow, ar arwyddocâd y gusan a bradychu Iesu gan Jwdas Iscariot yn nhrydedd oedfa'r Garwys.

gwrandoJohn Owain Jones

Y ffordd y mae Cristnogion ar hyd y canrifoedd wedi ystyried y gusan; eu hagwedd tuag at Jwdas Iscariot; a'u hymateb, o ganlyniad, i hunanladdiad, gafodd sylw yn y gwasanaeth hwn.

Gwadu - Garawys 4 (Mawrth 22)
Y Parchedig Nan Wyn Powell-Davies o'r Wyddgrug oedd yn arwain oedfa Sul y Mamau, gan gyfuno ei phrofiad fel mam i dri o blant ei hun gyda'i hymateb i'r gair 'g' nesa' yn y gyfres hon.

gwrandoWyn Powell-Davies

Prif neges yr oedfa yw bod yn rhaid i bob unigolyn ddod at Dduw ac at Iesu ei hun, trwy roi'r gorau i wadu ei bechodau. Rhaid dod at Iesu yn onest.

Y Groes - Garawys 5 (Mawrth 29)
Y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Cricieth, fu'n arwain pumed oedfa'r Garawys, gan ysgrifennu gwasanaeth cyfoes iawn am ffurfiau o'r groes yn ein dyddiau ni.

gwrandoPryderi Llwyd Jones

Yn y flwyddyn 33, croeshoelio oedd y ffordd gyfreithlon o ladd. Heddiw, gallai'r groes gael ei chyfnewid am fwled o wn; am chwistrelliad o wenwyn neu gadair drydan; neu am ddioddefaint carcharorion gwersyll Guantanamo. A sut mae dioddefaint a marwolaeth cyhoeddus Jade Goody yn ffitio i'r darlun?

Gorffennwyd - Garawys 6 (Ebrill 5)
Y Parchedig Beti-Wyn James, Caerfyrddin, arweiniodd oedfa Sul y Blodau ar chweched 'g' y Garawys eleni.

Gall y gair 'Gorffennwyd' ymddangos yn un negyddol iawn ar yr olwg gyntaf, meddai, ond yn ennyn ystyr newydd yn hanes wythnos olaf Iesu Grist.

gwrandoBeti-Wyn James

Gorfoledd sydd yn y gair pan fo'r Iesu yn ei lefaru, meddai. Dod â holl waith y deyrnas i fwcwl y mae'r Wythnos Fawr, a chwblhau'r weithred o brynu'r ddynoliaeth y mae croeshoeliad Crist.

Gorchfygu - Garawys 7 (Ebrill 12
Y Parchedig Gwynn ap Gwilym, Caerdydd, sy'n arwain oedfa Sul y Pasg, gan ganolbwyntio ar seithfed 'G' y Garawys.

Yn ei atgyfodiad, gorchfygodd Iesu dri pheth, meddai -marwolaeth, pechod ac anghrediniaeth.

gwrandoGwynn ap Gwilym

Yn yr atgyfodiad, ac yn ein cred ni ynddo, mae yna gyfrifoldeb, meddai wedyn, gan fod y fuddugoliaeth ar Sul y Pasg yn gwneud popeth yn bosibl.

Pan fo pechod y byd yn cael ei ddwyn gan ŵr ifanc ar groes, does gan farwolaeth a grymoedd y Fall ddim gafael arnom ni bellach. Dyna pam fod angen dal ati i weithio dros heddwch a chyfiawnder, ac i frwydro newyn a cham ar draws y byd.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy