BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
John Rowlands gyda'i ddwy ferch, Gwenno a mairY diwrnod olaf
Gwasanaeth yn Eglwys Sant Paul

Diwrnod olaf y daith
Roedd codi'n fore yn rhan o'n gwead erbyn diwedd y daith - felly doedd codi'n blygeiniol unwaith eto ar y diwrnod olaf yn mennu dim arnom.


Rhaid oedd cyrraedd Eglwys Sant Paul yn gynnar iddyn nhw gael eu bodloni ein bod yn gwybod sut i gerdded i mewn yn urddasol a ballu - a ninnau wedi cael 1,000 o filltiroedd o ymarfer!


Mae gen i ofn na fu llawer o ganolbwyntio ar yr ymarfer gan mai dyma'r tro cyntaf imi fod yno a bum yn syllu i'r entrychion uwch fy mhen y rhan fwy o'r amser.


Awyrgylch arbennig
Roedd yno awyrgylch arbennig a hen edrych ymlaen at y gwasanaeth arbennig yn y pnawn.


Chawson ni mo'n siomi ond cyn hynny roedd yn rhaid ymgynnull gyda'r holl gefnogwyr oedd wedi dod i gerdded y filltir olaf.


Roedd yr orymdaith fawr yn gadael pencadlys Cyngor Llundain, yn mynd heibio'r Gyfnewidfa Stoc ac yna'n ymgasglu o flaen grisiau Sant Paul.


Braf oedd gweld sawl mintai o Gymru wedi cyrraedd i ymuno â ni gan gynnwys fy nheulu fy hun.


Roedd cyfle i bob un ohonom fu'n cerdded ddweud ychydig wrth y dorf am y daith, cyn cychwyn gan gamu mlaen fesul grŵp o bedwar neu bump.


Y daith
Y fi gafodd y cyfle i siarad yn gyntaf:
"Rydan ni wedi cerdded yn bell iawn gyda'n gilydd, weithiau mewn tawelwch ac yng nghanol ein meddyliau ond hefyd yn siarad â'n gilydd gan rannu ein hanesion a'n profiadau, a'n gobeithion am y dyfodol a dyfodol y byd.


"Daeth pob cam a ni yn nes at ein gilydd ac mae fy nghyd gerddwyr o'r gwledydd tlawd rŵan yn gyfeillion pennaf imi.


Mae gen i barch aruthrol i'w hymroddiad i frwydro yn erbyn tlodi, anhegwch ac effaith newid hinsawdd yn eu gwledydd.


"Rydw i'n dal i deimlo'n euog fel un o gynrychiolwyr y gwledydd cyfoethog ar y daith. Ni ydy'r rhai sy'n gorfod newid ein ffordd o fyw fel ein bod yn llygru llai ar yr amgylchedd gyda'r nwyon, yn arbennig Carbon Deiocsid sy'n achosi newid hinsawdd.

"Mae'n rhaid i ni fyw'n symlach a bod yn llai gwastraffus a thrachwantus a dysgu rhannu adnoddau'r byd yn decach.

"Mae newid yn yr hinsawdd sy'n achosi tywydd anwadal yn cynnwys corwyntoedd, sychder a llifogydd cynyddol yn dinistrio bywydau miliynau o'r bobl dlotaf yn y gwledydd tlawd.


"Rhaid torri'r carbon rŵan ac yn y blynyddoedd nesaf i gael unrhyw obaith o liniaru effaith newid hinsawdd a'r chwalfa mae'n ei achosi ar draws y byd.


"Mae'r dyfodol yn nwylo ein plant ac mae'n rhaid inni weithredu gyda'n gilydd ar draws y byd I sicrhau bod ganddyn nhw ddyfodol."


Ymgyrchu'n rymus
Yn yr un grŵp a mi roedd Chirha o'r Congo, Cassia a Geanis o Frasil a Rosalia a Hilian o El Salvador ac fe wnaethon nhw bwysleisio'r effaith ar eu gwledydd ac ymbil arnom yng ngwledydd Prydain i ymgyrchu'n rymus i gael y maen i'r wal.


'Roedd y gwasanaeth Sant Paul yn drawiadol ac yn glo teilwng i'r daith. Tros 2,000 o bobl yn eistedd yn y gynulleidfa ac wrth i'r organ ddechrau canu agorwyd drysau gorllewinol y gadeirlan ac fe gerddodd y cerddwyr i mewn fel un.


Wrth inni orymdeithio i lawr i'r blaen, dechreuodd y gynulleidfa guro ei dwylo mewn cymeradwyaeth anhygoel. Profiad emosiynol a dramatig oedd yn benllanw tri mis o gyd-deithio.


Roedd canmoliaeth uchel i'r gwasanaeth - llawer yn dweud iddo gael argraff arbennig arnyn nhw.


Cafwyd cyfraniadau gan sawl un o'r cerddwyr o wahanol gyfandiroedd a phregeth rymus gan gadeirydd Bwrdd Cymorth Cristnogol, yr Esgob John Gladwin, yn galw arnom oll i ddychwelyd adref ac allan i ddatgan ein neges yn y caeau a'r priffyrdd.


Cefnogaeth
Wrth gwrs, faswn i ddim wedi gallu cwblhau'r daith heb gefnogaeth a chymorth teulu, cyfeillion a chydweithwyr a dyma gyfle i ddatgan fy niolchgarwch diffuant iddynt un ac oll..


Gyda'r nos fe gawsom barti ffarwelio oedd yn hynod o emosiynol ond gyda theimlad o undod, brawdgarwch ac awydd i ddal ati i frwydro ac i gynnal y gyfeillach rhyngom.



  • Gweddill dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy