BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Yn y glaw yn LlundainYn Llundain
Cyfarfod y Maer

2 Hydref 2007


Diwrnod o gerdded ger Afon Tafwys gan fwyaf oedd hi ddoe, a hynny yn y glaw. 'Roedd yn braf cael siarad Cymraeg eto, yng nghwmni Aled, Jeff a Branwen.


Melangell
Palas Lambeth oedd ein man cychwyn yn y bore. Wrth gyrraedd cefais fy nghroesawu gan gerflun o Melangell a'i chwningen, cerflun a wnaethpwyd gan leian Anglicanaidd o Gymru a gafodd ei dylanwadu gan yr Eglwys Geltaidd gynnar.
Gwnaeth imi deimlo'n gartrefol iawn!


Nid oedd yr Archesgob Rowan Williams ddim yno ond cyfarchwyd ni gan Esgob Efrog, Dr John Sentamu a adroddodd straeon difyr am ei fagwraeth yn Affrica.


Galw ar esgobion
Galwodd ein cydgerddwr Geoff, sy'n Esgob yn Ne Affrica ar esgobion i gymryd yr argyfwng newid hinsawdd o ddifri gan ddweud ei bod yn dyletswydd ar Gristnogion i sefyll dros y tlodion a galw am gyfiawnder.


Gwn fod Esgob Bangor wedi bwriadu dod yno yn arbennig i ymuno â ni heddiw yn St Paul's ond oherwydd salwch diweddar ni fu hynny'n bosib.
Danfonwn ein dymuniadau gorau ato.

Yr Esgob Geoff a'i wraig, Kate


Yn ddiweddarach 'roedd yr Esgob Geoff a'i wraig Kate yn falch iawn o gael tynnu eu lluniau o flaen y cerflun newydd o Nelson Mandela.


Ymlaen wedyn heibio Tŷ'r Cyffredin ac ar hyd Whitehall i stryd Downing.


Roedd cyflwyno'r ddeiseb i 10 Downing St yn arwyddocaol gan mai dyma'r trydydd tro inni dargedu Gordon Brown yn uniongyrchol - yn y gwasnaeth yng nghynhadledd y Blaid Lafur, yn y cyfarfod ymylol yno a ddoe wrth gyflwyno deiseb iddo.


Etholiad
Gan ein bod ynghanol sibrydion am y posibilrwydd o etholiad cyffredinol ar y gorwel 'rwy'n credu ei bod yn gyfnod tyngedfennol o ran cael ein hachos yn uwch ar yr agenda wleidyddol.


Amser te, y tu allan i Neuadd y Ddinas, ger Pont Tŵr Llundain, fe'n croesawyd yn swyddogol i Lundain gan y Maer, Ken Livingstone, a'i ddirprwy, Nicky Gavron.


Mae Ken Livingstone yn wleidydd diddorol gan ei fod yn cynrychioli safbwynt arbennig yng ngwleidyddiaeth Prydain - ac yn un o'r unigolion hynny sy'n dal i sefyll dros egwyddor.


Does dim amheuaeth iddo osod ei farc ar Lundain o safbwynt yr amgylchedd a thrawsnewid trafnidiaeth y ddinas.


Cyd-ddigwyddiad difyr oedd bod maer Efrog Newydd yn ei gyfarfod ddoe i drafod cyfyngu ar y defnydd o geir yn Efrog Newydd a chodi tâl yno am yrru i ganol y ddinas.


Llofnodi cerdyn
Llofnododd Ken Livingstone ein cerdyn ymgyrchu a rhoi carrai esgid o gwmpas ei arddwrn yn arwydd o'i ymrwymiad i'r ymgyrch.


Tri aelod seneddol a welais i'n arwyddo'r cerdyn hyd yn hyn; Gavin Strang AS o Gaeredin, Paul Flynn AS a Hywel Williams AS.


Dywedodd mai gostwng allyriadau 60% erbyn 2025 yw nod Dinas Llundain ac 80% erbyn 2050.


Mae'r cyngor hefyd wedi ysgrifennu adroddiad i ddangos sut mae hyn yn bosib ac fe ddywedodd hyn yn eglur o lwyfan cynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf.


Mae heddiw yn benllanw tri mis, ac mae cyffro rhyfeddol yn ein plith fel criw a m innau'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod, ac at gael gweld wynebau cyfarwydd a baneri Cymru yn chwifio yn y dorf.


  • Gweddill dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy