1 Hydref - cyrraedd Llundain
Mae mil - neu fwy! - o filltiroedd ar y cloc cerdded erbyn hyn ac mae'r daith yn dirwyn i'w therfyn.
Dros y penwythnos buom yn cerdded drwy feysydd breision cyn ysgrifennydd gwladol Cymru yn Woking, gan ryfeddu at gefndir a golud rhai o frodorion yr ardal.
Ddydd Gwener cefais orffwys o'r cerdded gan fy mod yn un o'r rhai oedd yn mynychu cyfarfod yn Llundain gyda chwmni trydan E-On.
Yn ogystal â lobïo gwleidyddion a phobl mewn grym gwleidyddol, rydym hefyd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd gyda chwmnïau mawrion fel Tesco, RBS a chwmnïau trydan.
Ydym, rydym ni'n llenwi pob munud o'n dyddiau!
Dylanwad rhyfeddol
Dyma'r ail waith imi fynychu cyfarfod gyda chwmni ynni gan inni gyfarfod International Power yn gynharach yn yr haf ac mae hynny'n elfen ddiddorol o'r daith gan ei bod yn bwysig i fudiad datblygu fel Cymorth Cristnogol drafod gyda chwmnïau mawr rhyngwladol.
Mae dylanwad rhyfeddol gan y cwmnïau hyn ac mae'r potensial ganddynt i newid pethau'n sylweddol er gwell.
Mae E-On yn gyfrifol am 0.6% o holl allyriadau'r byd. Cwmni o'r Almaen yw yn wreiddiol ac yn ein sicrhau bod cynrychiolwyr gwledydd Prydain a Sweden yn dylanwadu ar fawrion y cwmni yn yr Almaen.
Roedd yn gyfarfod cadarnhaol.
Yn amlwg allan nhw ddim gwneud newidiadau dros nos ond fe roddwyd addewidion y byddent yn cymryd camau go iawn i ganfodr sut i leihau eu niwed amgylcheddol.
Gosod canllawiau
Er hynny, y peth pwysig i'w gofio yw bod y cwmnïau'n fodlon mynd mor bell â ffiniau neu ganllawiau'r Llywodraeth.
Yn fy marn i, mae dyletswydd, felly, ar y Llywodraeth i ddangos arweiniad, a gosod targedau llymach i'r cwmnïau hyn .er mwyn eu gorfodi i gydymffurfio.
Wedi'r cwbl, mae'n rhaid i bob gwlad gael ynni, a Llywodraeth y gwledydd hynny sy'n rheoli'r cwmnïau ynni.
Dylai bod yn fwy gwyrdd a chyfrifol ddim bod yn gost anferthol i'r cwmnïau hyn ychwaith - mae'r dechnoleg ddiweddaraf ar gael ac mi ddylai fod yn her gyffrous iddynt.
Myfyrio
Bu'r penwythnos yn gyfnod o fyfyrio ar y daith hefyd. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod cannoedd ar gannoedd o bobl ac wedi profi croeso a chefnogaeth anhygoel.
Fe ges ffôn gan un teulu ym Mryste wedi imi golli f'un i; cefais fenthyg beic am y dydd gan deulu arall. Rydw i wedi cael llety yng nghartrefi pobl o bob cefndir, o deuluoedd uchel Eglwysig Gatholig i radicaliaid barfog.
Mae fy niolch yn fawr i'r cyfeillion hyn. Mae hi wedi bod yn anrhydedd cael fy nerbyn mewn i fywydau'r teuluoedd hyn a chyd-fyw an gyfnod gyda nhw. 'Roedd yn dangos imi hefyd pa mor eang yw rhwydwaith cefnogi Cymorth Cristnogol.
Ymlaen â ni heddiw i Balas Lambeth i gwrdd ag Esgobion, i Downing St i gyflwyno deiseb ac i Neuadd Dinas Llundain erbyn diwedd y prynhawn i gwrdd â Maer Llundain, Ken Livingstone.
Gweddill dyddiadur John Rowlands a hanes y daith