BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
CassiaBrwydr Cassia ym Mrasil
Siwgr yn chwerwi ym Mrasil

30 Medi 2007 - tynnu tua diwedd y daith


Gydol y daith rwy wedi cael trafodaethau diddorol iawn gyda Cassia Bechara, merch danbaid o Frasil, sydd â llond pen o gyrls du tynn a llygaid duon treiddgar.


Mae'n groyw a byrlymus ei barn am sawl mater, a hi oedd un o siaradwyr rali Caerdydd.


Mae. gweithio i MST, partner Cymorth Cristnogol sy'n cefnogi'r miloedd o bobl sydd heb dir ym Mrasil.


Ymunodd â'r daith oherwydd ei bod yn credu bod angen llais cryf o America Ladin a bod angen i leisiau pobl gyffredin Brasil fod yn rhan o'r drafodaeth am newid hinsawdd.


Y mwyaf di-rym yn dioddef


"Y mwyaf di-rym mewn Cymdeithas ym Mrasil sy'n dioddef waethaf yn sgil y newidiadau yn yr hinsawdd.


"Y ffermwyr tlotaf sy'n colli eu cnydau oherwydd sychdwr a llifogydd. Ond hefyd; erbyn hyn mae Brasil yn tyfu llawer o soia, ewcalyptws a chansenni siwgr er mwyn cyflenwi lleoedd cyfoethocach fel Ewrop a'r Unol Daleithiau gyda thanwydd yn sgil amaethu.


"Mae llygredd difrifol yn sgil effaith tyfu cnydau mor sydyn ac ar raddfa mor eang a'r cwmnïau mawr rhyngwladol sy'n elwa a chymryd ein tir," meddai.


"Mae hyn oll yn dyfnhau'r gwrthdaro tir ym Mrasil. Mae tir yn hynod werthfawr yno a Brasil yw un o wledydd mwyaf poblog y byd, ac mae yna argyfwng tir gwirioneddol yno.


'Cnwd gormesol'


"Siwgr yw un o'r cnydau mwyaf gormesol o ran niwed amgylcheddol. Mae hyn i gyd ar draul ein cymdeithas a'n pobl leol," meddai.


Ychwanegodd fod y pwyslais ar dyfu cnydau'n sydyn wedi acosi mwy o ecsploetio gweithwyr a gorfodi pobl i weithio dan amodau annheg am gyflogau pitw.


Mae gan Cassia ei amheuon am lawer o'r farchnad werdd ac er cael cynnyrch sy'n 'eco gyfeillgar' mae hi'n herio'r holl sustem o or-gynhyrchu gan gwmnïoedd mawr rhyngwladol a gorbrynu gennym ni fel cwsmeriaid.


"Pwy sy'n elwa yn y pen draw?" meddai. "Yn sicr nid y blaned - mae trachwant hefyd yn achosi newid yn yr hinsawdd. Mae angen inni i gyd ddarganfod ffyrdd cynilach o fyw," meddai.


Gwerth cerdded


"Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o'r daith yma", meddai, "ac wedi cael fy herio gan yr holl gerdded. Mae hi mor bwysig taclo'r sustemau sy'n cadw pobl yn dlawd, yn eu gwneud yn dlotach ac yn ehangu'r bwlch rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder, a dyma'n cyfraniad ni dros haf 2007. Rwy'n bendant ein bod wedi gwneud gwahaniaeth, drwy siarad a thrafod gyda'r cyhoedd a'r rhai sydd mewn grym gwleidyddol.


"Rwy'n teimlo inni gyfrannu at ehangu'r drafodaeth am newid hinsawdd," meddai.


Dim ateb hawdd


Ychwanegodd iddi hefyd fwynhau cwmni'r cerddwyr eraill.


"Mi rydyn ni wedi cael sgyrsiau difyr iawn ac wedi rhannu syniadau am wleidyddiaeth yng ngwledydd Prydain a thramor; am ddatblygiad mewn gwledydd eraill ac am ymgyrchu llawr gwlad. Does dim atebion hawdd, ond mae angen mynd sawl cam ymhellach cyn cael y maen i'r wal," meddai.


A'r daith erbyn hynny drosodd bydd Cassia yn dychwelyd adref ddydd Iau nesaf gan edrych ymlaen at ddychwelyd i'w chymuned ac ailymuno â brwydr chwyldroadwyr cyffredin Brasil.


  • Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy