Dalen arall o ddyddiadur John Rowlands
Roedd y cerddwyr i gyd yn westeion yng ngwasanaeth blynyddol y Blaid Lafur fore Sul yn ystod eu cynhadledd.
Roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghapel Methodist Bournemouth dros y ffordd i neuadd y gynadledda.
Diogelwch
Roedd mesurau diogelwch tynn a channoedd o blismyn o gwmpas y lle - rhai arfog mewn dillad duon yn cadw golwg arnom o ben to'r neuadd yn cerdded i mewn i'r capel.
Roedd nifer o brotestwyr wedi ymgynnull y tu allan i brif neuadd y gynhadledd - pobl yn ymgyrchu yn erbyn y rhyfel, gweithwyr Remploy ac ambell ymgyrch arall.
Fesul un 'roeddem yn gadael ein bagiau mewn ystafell gyda swyddog diogelwch yn cadw llygad barcud ar bob bag. Sylwais hefyd fod y traeniau i gyd o amgylch y capel wedi eu selio.
Roedd y capel yn llawn dop gyda nifer o aelodau seneddol Llafur yn cymryd rhan a'r Prif Weinidog hefyd yn darllen.
Teimlais fod ein presenoldeb ni yn ein crysau T Torrwn y Carbona'n dillad cerdded yn arbennig o rymus ac yn symbolaidd iawn.
Cymro'n pregethu
Alun Michael a'n croesawodd yn swyddogol i'r gwasanaeth. Ef yw cadeirydd y Mudiad Sosialaidd Cristnogol.
Cymro oedd y pregethwr, y Dr Lesley Griffiths, Arglwydd Griffiths o Burry Port a fu'n byw ac yn gweithio yn Haiti yn ystod y Saithdegau.
Yn Haiti y cafodd ei ordeinio cyn dod yn ôl i weinidogaethu yn Essex a Golders Green.
Yn ddiweddarach cwblhaodd PhD yn yr Ysgol Astudiaethau Affricanaidd ym Mhrifysgol Llundain ac yno mae'n weinidog yng Nghapel Wesle Llundain.
Alun Michael oedd noddwr y cyfarfod ymylol a drefnwyd wedi'r gwasanaeth hefyd ac fe siaradodd dau o'r cerddwyr yn y cyfarfod hwnnw - Chirha o'r Congo a Rachael o Newcastle.
Roedd Daleep Mikarji, Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol hefyd yn annerch y cyfarfod.
'Yn allweddol'
Croesawodd Alun Michael yr ymgyrch gan ddweud pa mor allweddol yw cael pobl yn ymgyrchu i newid pethau a chodi ymwybyddiaeth eraill mewn cymdeithas.
Roedd yn brofiad da cael sgwrs Gymraeg gyda Alun Michael ynghanol y môr o Saesneg y bore hwnnw!
Gan ein bod wedi cael hoe go lew yn sgil mynychu'r gwasanaeth roeddem yn hwyr yn gorffen cerdded y diwrnod hwnnw ac erbyn inni orffen tua wyth o'r gloch roedd hi'n dywyll, yn wlyb ac yn oer.
A dweud y gwir, roeddem yn wlyb at ein croen gan iddi bistyllu glaw am rai oriau.
Ond wedi cyrraedd y New Forest roedd croeso twymgalon inni a braf oedd cael cawod boeth, a dau deulu yn dod at ei gilydd i roi bwyd inni.
Cysylltiadau Cymreig
Roedd un gŵr yn gapten llong, a'r llall yn beiriannydd ac yr oedd gan y ddwy wraig gysylltiadau ag ardaloedd Llansilin, Dinas Mawddwy ac Aberhonddu ac yn falch o gael croesawu Cymro fel fi i'w plith.
Mae gen innau a fy nheulu atgofion cynnes o'r New Forest hefyd gan inni dreulio gwyliau hapus iawn yno pan oedd y genethod yn fach ac o'r herwydd bu sgwrsio mawr mewn awyrgylch bendigedig gan rannu straeon, gwledda ac yfed gwin am rai oriau!
Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith