Swyddog Argyfyngau gyda Chymorth Cristnogol yn y Congo yw Chirha Murhambo, sydd yn un arall o'n cyd-deithwyr llon.
Hen dreftadaeth Belgaidd yw'r Congo, gwlad sydd â phoblogaeth o 60 miliwn.
Mae 70% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig a'r mwyafrif yn byw mewn tlodi ar lai na 50c y diwrnod.
Problemau
Er bod gan y wlad sefydliadau etholedig yn genedlaethol a lleol, mae'r llywodraeth yn wan gan fod cynifer o broblemau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yn y wlad.
Mae cyfnodau o wrthdaro hefyd wedi dwysau problemau'r Congo - yn y rhyfel rhwng 1996 a 2003 lladdwyd tair miliwn o drigolion y wlad.
Amcangyfrifir bod tua un miliwn o ffoaduriaid amgylcheddol yn ardaloedd dwyreiniol y Congo - pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd.
Ac mae gan Chirha sawl hanesyn sut mae newidiadau yn yr hinsawdd yn effeithio ar deuluoedd.
Llifogydd
Yn ystod Ionawr eleni torrodd Afon Congo ei glannau yn dilyn glaw trwm a chenllysg difrifol. Collodd miloedd o bobl eu cartrefi a'u heiddo, eu hanifeiliaid a'u cnydau.
Dinistriwyd ffyrdd a phontydd gan ei gwneud yn amhosib teithio i rai mannau.
Difrodwyd ysgolion a chanolfannau iechyd. Mae 1,750 yn dal yn methu mynd i'r ysgol ac o ganlyniad i'r llifogydd mae malaria ar gynnydd ac mae pla o'r enw mosaicyn lladd cnydau banana a chasafa a chan mai hwy yw dau o brif gynhwysion diet y bobl mae'n creu sefyllfa argyfyngus.
Yn yr ebost diweddaraf a dderbyniodd Chirha o'r Congo roedd pryder fod teuluoedd eisoes yn llwgu gyda rhai mor llwglyd eu bod yn bwyta hadau!
Wedi gweld
Penderfynodd Chirha ymuno â'r daith gerdded oherwydd y dioddefaint dirdynnol yn y gwledydd tlawd, gan gynnwys y Congo.
"Dwi wedi gweld effeithiau newid hinsawdd gyda'm llygaid fy hun", meddai.
"Un diwrnod ar y daith hon mi 'roeddwn i'n cwyno ac yn dioddef gyda'm traed. Roeddent yn brifo, yn llawn swigod ac 'roedd pob cam yn boenus.
Dal ati
"Roeddwn yn teimlo'n hunan dosturiol iawn ond yna cofiais am fy mhobl sydd yn dioddef go iawn. Felly penderfynais barhau i gerdded, yn benderfynol o rannu neges y gwledydd tlawd o gyfiawnder a gobaith i'r gwledydd cyfoethog, gan alw arnynt i gyrraedd cytundeb rhyngwladol i atal rhagor o newidiadau yn yr hinsawdd."
Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith