BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Pierre o MaliFfarwelio a Pierre
Medi 19 - dalen arall o dyddiadur John Rowlands

Mae ambell un o'r tramorwyr sydd ar y daith yn dod am rai wythnosau ac yna daw rhywun arall yn eu lle.


Gofynion gwaith yw'r rheswm na all pawb ymrwymo i dri mis o gerdded ac, yn wir, mae rhinweddau pendant i'r cyfnewid hwn.


Mae'n rhoi blas inni o sefyllfa partneriaid Cymorth Cristnogol mewn sawl gwlad a sut y mae newid hinsawdd, yn ogystal â chyfundrefnau eraill, yn effeithio ar y tlodion yn eu cymdeithas.


Y diweddaraf i adael yw Pierre o Mali.


Mae'n draddodiad yn ein plith bellach ein bod yn cynnal cyfarfod bychan y noson cyn ffarwelio a phawb yn eu tro yn cyfarch y person.


Gall hwn fod yn brofiad emosiynol iawn gyda deigryn mewn sawl llygad wrth inni rannu ein diolchiadau a'n dymuniadau da.


Fel 'y cawr tawel' yr oedd Pierre yn cael ei adnabod a'i gadernid a'i wên gynnes wedi codi sawl ysbryd pan oedd pethau'n anodd.


Fel swyddog ymgyrchu partneriaid Cymorth Cristnogol, MFC, mae'n gadarn ei farn hefyd ynglŷn ag effaith newid hinsawdd ar Mali sydd ynghanol ardal y Sahel, ac yn profi sychdwr cynyddol a'r sychdwr hwnnw'n golygu bod yr anialwch yn ymledu ac yn llyncu tir ffrwythlon.


Pierre yn Ysgol Gymraeg CaerffiliMae MFC yn gweithio gyda chymunedau sy'n cael eu bygwth gan y sychdwr hwn ac yn gyfrifol am amrediad eang o brosiectau sy'n cynnwys gofalu bod pobl yn cael dŵr glân, prosiectau amgylcheddol a darparu ynni gwyrdd i bentrefi sydd ar hyn o bryd heb unrhyw drydan o gwbl.


Daeth Pierre gyda ni i Ysgol Gymraeg Caerffili lle'r oedd yn bleser gwylio'r plant yn edrych i fyw ei lygaid wedi eu swyno gan ei ddisgrifiadau o fywyd ym Mali.


Ond mae Pierre hefyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd adref.


Bydd croeso mawr yn ei aros 'dwi'n siwr - gan ei wraig a'u mab tri mis oed, John Bernard.


Cyn ffarwelio rhoddodd Cassia, Rosalia a Geanis anrheg wedi ei phrynu'n arbennig i John Bernard yng Nghaerdydd - siwt babi gyda'r geiriau 'I'm not only gorgeous I am also WELSH' ar y blaen a draig bach goch.


'Sgwn i sawl babi arall ym Mali fydd yn gwisgo a chwarae gydag anrhegion o Gymru, wedi eu prynu gan dair cyfaill o dde America?!


  • Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy