BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Cyflwyno siecCroeso Casnewydd
Dyddiadur Taith Torrwn y Carbon John Rowlands

Wedi gwasanaeth yn eglwys City URC, Caerdydd fore Sul cychwynnwyd am Gasnewydd, ond diflas oedd rhai darnau o'r daith ar yr A48.



Mae'n syndod cymaint o drafnidiaeth sy'n gwibio heibio inni ar bnawn Sul heulog ond roedd hi'n dawelach wrth gyrraedd canol dinas Casnewydd.



Casglu arian
Croesawyd ni gan aelodau o Gapel Seion hanner ffordd fyny allt Hill Street a chyflwynwyd siec o £600 i Gymorth Cristnogol gan Elin Maher a'i merch dwy oed, Efa, ar ran Ysgol Sul Capel Seion.



Fe'u casglwyd i helpu pweru canolfan iechyd ym Malawi a fydd yn rhoi gofal meddygol i 30,000 o bobl.



Ysbrydolwyd yr Ysgol Sul gan adnod Mathew 5:14, "Chi yw goleuni'r byd", a phenderfynodd rhai o'r bechgyn gasglu arian i brynu panel solar o gatalog Mem>Present Aid Cymorth Cristnogol a than arweiniad Elin, lluniwyd baner, gyda'r plant yn gludo un disg arian sgleiniog arni am bob £1 a gaglwyd.


Gyda'i gilydd roedd y disgiau'n ffurfio panel solar ar y faner, o dan eiriau'r adnod. Wrth ddiolch i'r Ysgol Sul dywedodd Mohamed y byddai'r haul yn goleuo bywydau eu brodyr a'u chwiorydd Affricanaidd ym Malawi.



Llifogydd sydyn
Daeth Jessica Morden AS draw i gwrdd â ni hefyd gan aros am swper a baratowyd ar ein cyfer gan aelodau'r capel. Bu'n bwyta gyferbyn â Dwijen oedd yn egluro sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn achosi cynnydd yn lefelau'r môr a bod y tir arfordirol yn diflannu ym Mangladesh.



Mae'r tir ffrwythlon yn cael ei foddi dros nos weithiau gyda'r trigolion yn gorfod dianc o'u cartrefi ac yn troi'n ffoaduriaid amgylcheddol.



Addawodd Jessica edrych ar y mesur yn fanwl pan ddaw gerbron Tŷ'r Cyffredin yn yr hydref. Addawodd yrru neges destun yn cefnogi'r daith hefyd - mae'n hawdd gwneud hyn dim ond anfon 'CUT' i 84880.



Croeso CasnewyddYn anffodus, nid oes modd gwneud hyn yn y Gymraeg ar hyn o bryd.



Yn ystod y noson 'rwy'n credu i Elin achub ar y cyfle hefyd i lobïo Jessica am fwy o addysg Gymraeg yng Nghasnewydd ac roedd hithau'n swnio'n frwd gan ddweud iddi ddod o hyd i ysgol Sul hyfryd ar gyfer ei merch, Mali sy'n chwe mis oed!



Y Parch Allan Pickard yw gweinidog Capel Seion a'i i fab, Aled, sy'n gweithio i Gymorth Cristnogol yn yr ardal hon, fu'n gyfrifol am brif drefniadau'r daith a'r rali yng Nghymru.


Trefnu taith
Mae'n gamp trefnu taith fel hon a darparu pethau ymarferol fel lluniaeth a thai bach ar y ffordd, llety gyda'r nos, gofalu am drefniadau iechyd a diogelwch a mapiau ar gyfer y diwrnod.


Mae'r staff lleol hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd ffurfiol gyda chynrychiolwyr etholedig a busnesau mawrion yn yr ardal, ymweliadau ag ysgolion, digwyddiadau gyda'r nos, cyhoeddusrwydd a chefnogaeth ymarferol i'r credwyr ar hyd y cyfnod.



Mae'r trefniadau yng Nghymru wedi bod yn arbennig o hwylus, gyda'r cerddwyr oll yn hapus iawn gyda'r arweiniad a'r gofal a roddir inni yma.



  • Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy