BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Greta Scacchi yng NghaerdyddRali Caerdydd - yr orau eto
Sylwadau John Rowlands yn dilyn Rali Caerdydd, Torrwn y Carbon.

  • Bore Sul , Medi 9
  • Wedi diwrnod ardderchog o gerdded ddydd Gwener braf oedd croesawu pawb i'n prifddinas ar derfyn y dydd.


    Gyda'r nos aeth y cerddwyr a chriw o staff Cymorth Cristnogol yng Nghymru allan am gyri yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a chan fod Dwijen o Bangladesh yn dathlu ei ben-blwydd yn 43 y diwrnod hwnnw fe aethom i fwyty Bangladesh


    Cacen
    Ac roedd nifer yn falch o'r cyfle i gael bwyta bwyd sbeislyd - ond bod Neil o Iwerddon yn gwrthod bwyta dim byd poethach na mint Polo felly, chwarae teg i'r cogydd, fe baratôdd sglodion a chyw iâr ar ei gyfer.


    Roedd gêm Ffrainc yn erbyn Yr Ariannin ar sgrin fawr yn y bwyty ac roedd cryn ddathlu gan nifer fod yr Ariannin wedi ennill - er bod ambell un fel Pierre yn gefnogwr brwd i Ffrainc!


    Diolch i Nerys o swyddfa Caerdydd daeth y noson i ben gyda theisen ben-blwydd i Dwijen a phawb yn canu Pen-blwydd Hapus iddo yn ei iaith ei hun.


    dilyn yr afon
    Bum yn edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sadwrn ers amser.
    Hebryngwyd ni yn ôl i Gaerffili er mwyn cychwyn cerdded oddi yno i Gaerdydd. Cawsom egwyl a phaned yn eglwys Sant Michael, Tongwynlais, ar y ffordd a cherdded oddi yno dan Gyffordd Sbageti Caerdydd - cyffordd 42 - tuag at lan Afon Taf.


    Mae Afon Taf a'i glannau yn golygu llawer imi gan fy mod yn ei hadnabod yn dda trwy fy ngwaith ac yn aml yn cerdded ar ei hyd yn fy amser hamdden gan fy mod yn byw mor agos.


    Mae Llwybr Taf yn un poblogaidd, ac fe'n cyfarchwyd yn llon gan nifer o feicwyr a cherddwyr oedd yn amlwg yn defnyddio'r llwybr yn gyson.


    Gwelsom Gaerdydd ar ei gorau a phawb wedi synnu ein bod mor agos i ganol y ddinas ond yn cerdded drwy'r coed ar lan afon mor brydferth.


    Dim syndod eu bod yn galw'r afon a'r parciau cyfagos yn 'ysgyfaint gwyrdd y ddinas'!


    Braf oedd dod drwy fy mhentref fy hun, Yr Eglwys Newydd lle cawsom groeso gan nifer o'm cyfeillion, lletywyr rhadlon yr ardal a chefnogwyr eraill yn dal baneri a phlacardiau.


    Yno hefyd, y tu allan i gaffi'n cael paned, roedd fy ngwraig, Mali, fy merched a fy mam yn chwifio eu dymuniadau da.


    Profiad arbennig
    Wedi cinio yn Llandaf daeth Julie Morgan AS i'n cwrdd a chyrhaeddodd yr actores, Greta Scacchi, a'r rapiwr tal, Maggot.


    Wrth ddynesu at Blackweir cynyddodd y dorf a chyfarchwyd ni gan y band samba Rhythms of the City a thua 400 o gefnogwyr.


    Roedd troi mewn i Gaeau Cooper yn brofiad arbennig gyda dros 200 o bobl yn disgwyl yn eiddgar amdanom ac yn chwifio eu cefnogaeth.


    Roedd yn anrhydedd fawr cael cyfle i siarad yng Nghaerdydd, ac annerch y dorf yn Gymraeg gyda'r rhes o gerddwyr yn sefyll y tu ôl imi.


    Rydyn ni wedi dod yn gymuned glos dros y deufis diwethaf a chyd-dynnu a chyd-fyw gyda'n gilydd yn eithriadol o lwyddiannus, a hynny gydag amrywiaeth diwylliannol enfawr - neges i'r byd yn sicr.


    Cafwyd cyfraniadau eithriadol gan bob un oddi ar y llwyfan, a diolch i bawb am gefnogi.


    Undod cryf
    Teimlais undod cryf yng Nghaerdydd ac wrth annerch y dorf cefais y teimlad bod y gynulleidfa o ddifri'n ein cefnogi.


    Da oedd gweld gwleidyddion fel Hywel Williams AS, Bethan Jenkins AC ac Eluned Morgan ASE yn rhan o'r dorf.


    Aeth ias i lawr fy nghefn sawl tro ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i wneud y rali'n gymaint o lwyddiant.


    Hyfryd hefyd oedd clywed sawl un o'r cerddwyr yn dweud mai hon oedd y rali orau hyd yn hyn gyda'r tramorwyr yn arbennig yn teimlo mor gartrefol yma ac wedi profi gwir groeso Caerdydd a Chymru.


  • Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy