Yr oedd yr actores o Hollywood, Greta Scacchi, ymhlith y dros 600 o bobl a ddaeth i rali i Torrwn y Carbon yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 8 Medi, 2007.
Er iddi fod yn ymgyrchydd dros yr amgylchedd yn ei hugeiniau y mae 15 mlynedd ers iddi gymryd rhan mor gyhoeddus a hyn.
"Ond pan ofynnodd Cymorth Cristnogol yr oeddwn yn hapus iawn i wneud hynny," meddai
Anerchwyd y dyrfa hefyd gan John Rowlands sy'n ymgymryd â'r daith mil o filltiroedd Torrwn y Carbon o amgylch Prydain.
Bod yn gefn
Disgrifiodd ef fod gan Gymru fel gwlad fechan sydd wedi gorfod amddiffyn ei diwylliant a'i threftadaeth yn erbyn grymoedd mwy dros y blynyddoedd ac hefyd fel gwlad a ddioddefodd dan law y meistri glo a llechi, hanes o fod yn gefn i wledydd eraill sy'n brwydro am hunan barch.
"A heddiw mae'r gwledydd tlawd yn dioddef o effeithiau newid yn yr hinsawdd," meddai.
"Maen nhw'n dlawd oherwydd tref economaidd a gwleidyddol sy'n annheg â'r tlawd ac y mae Cymorth Cristnogol wedi ymgyrchu am fasnach gyfiawn dros nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn herio'r penderfyniadau gan sefydliadau byd-eang sy'n niweidio'r tlawd," meddai.
"Mae newid hinsawdd yn gwenud bywyd y tlodion ar draws y byd yn llawer gwaeth," ychwanegodd.
Carbon y cyfoethog
Dywedodd hefyd mai'r gwleydd cyfoethog sy'n gyfrifol am arllwys Carbon Diocsid i'r amgylchedd a hynny am dros 200 mlynedd ers y Chwyldro Diwydiannol.
"Mae ein byd yn wynebu y trychineb mwyaf yn ei hanes," meddai.
"Rhaid inni weithredu gyda'n gilydd yn awr ar draws y gwledydd," meddai.
Y nod, meddai, yw cyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y byd i 2C. A galwodd ar bawb i bwyso ar eu haelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad a chynghorwyr lleol i weithredu dros Dorri'r Carbon.
"Rhaid inni weithredu'n uniongyrchol gan fod hwn yn fater rhy bwysig i'w adael i'r gwleidyddion a gwn y bydd gwleidyddion yn cytuno â mi," meddai.
Dewis personol
"Yr oedd gen i ddewis ymuno â'r daith hon neu beidio. Gallwch chwithau wneud dewisiadau yn eich bywydau chwithau. Rhaid inni wneud penderfyniadau bob dydd i leihau ein hôl troed garbon.
"Does gan y tlodion ddim dewis - rhaid i ni wneud dewisiadau a fydd yn newid ein ffordd o fyw," meddai.
. Proffwydoliaeth
"Dydym ni ddim yn etifeddu'r ddaear gan ein cyndeidiau ond yn ei benthyg gan ein plant," meddai gan fynd ymlaen i ddyfynnu proffwydoliaeth yr hen Indiad Americanaidd:
"Dywedodd un o frodorion America fel hyn:
Dim ond wedi i'r goeden olaf gael ei thorri
Dim ond wedi i'r afon olaf gael ei gwenwyno
Dim ond wedi i'r pysgodyn olaf gael ei ddal
Dim ond wedyn y gweli di na fedri di fwyta arian
"Does dim rhaid i'r broffwydoliaeth hon gael ei gwireddu. Gyda'n gilydd gannwn ddewis gwneud y byd yn lle gwell trwy Dorri'r Carbon," meddai.
Dyddiadur John Rowlands a hanes y daith