BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Rhai o ddisgyblion CaerffiliYmweld ag Ysgol Gymraeg Caerffili
Taith John Rowlands - y diwrnod cyn rali fawr Caerdydd

  • Nos Wener, 7 Medi 2007

  • Cefais noson o gwsg yn fy ngwely fy hun neithiwr gan fy mod o fewn pellter rhesymol i adref.


    Ben bore fe aeth criw ohonom i Ysgol Gymraeg Caerffili i drafod y daith gyda dros 300 o ddisgyblion brwdfrydig.


    Roedd cryn edrych ymlaen wedi bod ar gyfer ein hymweliad, gyda'r plant i gyd yn cerdded i'r neuadd yn wên o glust i glust. Yn y gwasanaeth, rhoddwyd cyfle inni egluro pam ein bod wedi ymgymryd â'r her hon


    Wrth eu boddau
    Mohammed o Kenya, Rosalia o El Salvador a Pierre o Mali ddaeth gyda ni i'r ysgol. Dyma eu hymweliad cyntaf ag ysgol ers dechrau'r daith gan fod plant wedi bod ar eu gwyliau haf tan yr wythnos hon.


    Roedd y tramorwyr wrth eu boddau gyda'r croeso tanbaid a diddordeb heintus y plant.


    Disgrifodd Mohammed beth mae newid hinsawdd yn ei wneud i Kenya gyda lleihad yn y glaw yn peri sychder a methiant yn y cnydau sy'n golygu bod teuluoedd yn mynd heb fwyd.


    Galwodd y ddaear yn 'gartref' i bawb, ac yn un y dylai bawb edrych ar ei ôl drwy gerdded yn amlach i'r ysgol neu wrthod bagiau plastig yn yr archfarchnad.


    Annerch Ysgol Gymraeg Caerffili Ond yn amlwg roedd gan yr ysgol bethau i'w dysgu i ninnau hefyd - mae ganddynt Gyngor Amgylchedd yn yr ysgol, maent yn ailgylchu'n gyson, yn arbed dŵr a lleihau ynni yn yr adeilad ac yn trefnu Bws Cerdded yn wythnosol.


    Yn wir, roedd Toby y dyn camera'n cofio dod i'r ysgol dair blynedd yn ôl gyda'r BBC i wneud eitem newyddion am y bws cerdded cyntaf yno.


    Colli cartref
    Chwaraeodd Rosalia gêm 'cwningod' o El Salvador gyda'r plant, lle'r oedd ambell un yn colli cartref.


    Eglurodd sut roedd llifogydd diweddar wedi achosi digartrefedd yn El Salvador.


    Roedd yn ffordd hwyliog a dychmygus o gyfathrebu gyda'r plant a hwythau'n ymateb yn wych. O sylwi ar gyffro'r plant synnwn i daten nad hon fydd gêm yr iard ar gyfer y diwrnod!


    I Bontllanfraith
    Anodd oedd ffarwelio, ond 'roedd rhaid ail ymuno a'n cyd-deithwyr oedd ar eu ffordd i Bontllanfraith.


    Darparwyd gwledd ar ein cyfer yn eglwys Anglicanaidd Sant Awgwstin yno a da oedd clywed bod Archesgob Cymru, y Dr Barry Morgan, wedi cefnogi'n taith ni'n gyhoeddus.


    Roedd Ymddiriedolaeth 'Groundwork' wedi dod draw ag arddangosfa i'r eglwys o'u gwaith yn lleol a daeth Don Thouig AS i ymuno â ni hefyd amser cinio ond eto ni chafwyd ymrwymiad ganddo i ddim.


    Sawl un o'r aelodau seneddol yma tybed rydyn ni yn eu cwrdd ar hyd y daith fydd yn ymgyrchu go iawn i gryfhau'r mesur newid hinsawdd ddaw gerbron y Tŷ'r Cyffredin yn yr hydref?


    Troi'r tap
    Ond yr ysgol oedd uchafbwynt pendant heddiw, yn enwedig o weld cannoedd o blant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y de-orllewin.


    Ysgol yn sicr sy'n meddwl yn lleol a gweithredu'n fyd-eang.


    Diolch i Lynn Griffiths y pennaeth a'r athrawon hefyd am eu cydweithrediad a'u harweiniad amlwg.


    Wrth i Pierre ffarwelio â Kier, sy'n 10 oed, ateb Kier oedd; "Peidiwch â gadael y tap dŵr mlaen gan wastraffu dŵr a cherddwch i'r ysgol. Gallwn ni gyd wneud rhywbeth."


    Gweddill y daith


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy