BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
John RowlandsWynebu Caerdydd
Dyddiadur diwedderaf Taith Torrwn y Carbon John Rowlnads


Dydd Iau, 6 Medi 2007
Dilyn y gamlas


Cerdded ar hyd y gamlas o Drefynwy i Bontypwl. Bendigedig!


Criw o ddeifwyr sy'n trwsio'r gamlas rhag iddi ollwng yn dangos llawer o ddiddordeb yn ein taith ond yn amau a fyddwn yn cael y maen i'r wal efo'r gwleidyddion.


Roedden nhw'n gweld mwy o obaith inni gael ein neges drosodd wrth gwrdd â phobl gyffredin ar hyd y daith.
Wedyn dyma nhw'n diflannu i'r dyfnderoedd i barhau'r trwsio.


Mwynhau cerdded
Pawb o'r criw yn mwynhau cerdded yng nghysgod y coed a gweld golygfeydd godidog y rhan yma o Gymru. Mae sŵn cerbydau yn y pellter ond yn ddigon pell i beidio â tharfu arnom.


Cerdded yw'r hamdden mwyaf poblogaidd ond mae angen gwella'r cyfleusterau ar gyfer cerddwyr yng ngwledydd Prydain.


Rwy'n teimlo weithiau nad oes unrhyw ystyriaeth i gerddwyr - rydym wedi profi enghreifftiau di-ri o gerddwyr yn wynebu peryglon difrifol iawn oherwydd diffyg cynllunio ar gyfer cerddwyr.


Ac yna, beth am blant sydd eisiau cerdded i'r ysgol?
A phobl sy'n dymuno cerdded i'w gwaith?


Angen ei gwneud hi'n haws
Mae angen hwyluso'r profiad, a sicrhau bod amgylchiadau diogel ar gyfer pobl sy'n dymuno cerdded yn hytrach na rhuthro o amgylch y lle mewn car drwy'r amser.


Mae llwybr y gamlas yma'n enghraifft o rywbeth amgylcheddol gyfeillgar y gellir ei wneud i alluogi pobl i fwynhau'r awyr iach.


Gweddill y daith


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy