5 Medi 2007
Cymru - o'r diwedd!
Ers gweld ucheldir Cymru o fryniau Malvern rwyf wedi bod yn ysu am gyrraedd yr henwlad.
Cawsom dywydd bendigedig ar gyfer dynesu at Gymru, ac fe wenodd yr haul yn wresog wrth inni groesi i Gymru ger pentref bach Llangua.
Croeo gwresog
Gwresog hefyd oedd croeso David Davies AS ac yntau'n gyfeillgar iawn, yn ystyriol iawn ac yn bendant yn sylweddoli pwysigrwydd yr ymgyrch.
Daeth Prif Gynghorydd Cyngor Mynwy, Chris Woodhouse, hefyd i'n croesawu a nifer o gefnogwyr lleol Cymorth Cristnogol.
Cawsom baned yng ngardd un o'r cefnogwyr hyn - gardd sydd yn llythrennol ar y ffin.
Dynuniad gweinidog
Gwibdaith sydyn wedyn i Gaerdydd lle bum i, Jeff o swyddfa Cymorth Cristnogol yng Nghaerdydd, Charles o swyddfa Llundain, Shira o DRC a Rosalia o El Slavador yn cwrdd â Jane Davidson AC, Gweinidog Cynaladwyedd Llywodraeth y Cynulliad.
Cawsom gyfarfod da a hithau'n awyddus iawn bod Cymru yn sefydlu ei hun yn wlad Masnach Deg - y wlad gyntaf i sicrhau'r statws yna - cyn gynted â phosib.
Ond ni ymrwymwyd i fawr ddim penodol. Cawn weld beth fydd ei barn erbyn ein cyfarfod nesaf â hi.
Teithio nôl tuag at y Canolbarth er mwyn ail ymuno â'r cerddwyr yn Y Fenni lle buom yn siarad gyda siopwyr yng nghanol y dref, a chael te yn un o'r eglwysi yno.
Bu'n daith hyfryd wedyn drwy Ddyffryn Wysg i Gofilon lle 'roedd cawl, bara a chaws, tarten afal a hufen iâ yn ein disgwyl yn yr eglwys yno ger y gamlas.
Dyma eglwys hynaf y Bedyddwyr yng Nghymru a fu unwaith yn bedyddio pobl mewn ffynnon llawn dŵr o'r gamlas.
Cwis tafarn
Gyda'r nos roedd trafodaeth a dangosiad o'r ffilm An Inconvenient Truth yn Y Fenni ond fe aeth y mwyafrif ohonom i'r dafarn leol yn Gofilon, y Bridge End Inn lle'r oedd Peter, gweinidog y capel, wedi paratoi cwis tafarn ar ein cyfer.
Roedd y cwestiynau'n gymysg o wybodaeth gyffredinol, cwestiynau Cymreig a chwestiynau ar newid hinsawdd.
Wrth gwrs, yn ein tîm ni, i mi y pasiwyd pob cwestiwn am Gymru ond yn amlwg roedd blinder yn dechrau fy nharo gan imi ateb un o'r cwestiynau'n hollol anghywir trwy ddweud bod Gŵyl Bryn Terfel yn cael ei chynnal yng Nglynllifon yn hytrach na'r Faenol!
Wrth lwc, anghofiodd pawb yn reit sydyn wrth i wraig y dafarn ymddangos gyda phlatiad enfawr o sglodion a brechdanau i bob bwrdd.
Does dim tebyg i frechdan chips fel gwobr gysur!
Gweddill y daith