BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Yn BirminghamCytgord crefyddol
Cristnogion a Moslemiaid yn cydweithio

  • John Rowlands yn cyrraedd hanner ffordd
  • Yr ydym bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig iawn, wrth basio hanner ffordd o ran milltiroedd ac amser.


    Mae Gogledd Iwerddon a 14 Gorffennaf yn ymddangos yn bell iawn yn y gorffennol erbyn hyn a phrin bod yr un ohonom wedi dychmygu'r adeg honno y buasem ni'n gweld cyrraedd hanner ffordd!


    Dangos Cymru
    Bu uchafbwynt arbennig i ddathlu'r hanner gyda Rali yn Birmingham ddydd Llun Gŵyl y Banc.


    Digon o liw, anerchiadau pwerus, cefnogaeth frwd a'r canwr, Lemar, ar ei orau..


    Fe wnes innau'n siŵr fod Cymru yn cael sylw twy wisgo baneri'r Ddraig Goch a het Patagonia ac fe ges i fy llun wedi ei dynnu gyda Lemar!


    I'r mosg
    Yn cyd-drefnu'r rali gyda Cymorth Cristnogol yr oedd Islamic Relief ac mae'n rhaid dweud i'r trefniadau wneud argraff arnom i gyd ac fe wnes i ffrindiau gyda Muhammad Imran, rheolwr addysg a datblygiad Islamic Relief.


    Roeddwn i wedi sylwi ei fod ef a'i gydweithwyr yn diflannu bob hyn a hyn ac o'i holi dyma sylweddoli mai mynd i'r mosg yr oeddent yr amserau addoli.


    Gofynnais a fuaswn i'n cael mynd gyda nhw a dyma fynd yn eu cwmni i'r mosg lleol.


    Roedd y lle'n llawn ond yn dawel wrth i bawb fod wrthi'n gweddïo.


    Er imi ymweld â mosgiau o'r blaen dyma'r tro cyntaf imi deimlo'n rhan o'r hyn oedd yn digwydd yno.
    Profiad arbennig.


    Pwysigrwydd cydweithio
    Mae'r ffaith bod Cymorth Cristnogol ac Islamic Relief yn cydweithio ar y mater yma yn arwyddocaol iawn, yn enwedig o gofio fod cymaint o'r newyddion yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng y cymunedau Cristnogol a Moslemaidd.


    Ond, wrth gwrs, mae effeithiau andwyol newid hinsawdd yn rhywbeth a ddylai fod o gonsyrn i bobl o bob ffydd ac rwy'n credu fod y cydweithio hwn yn un o'r pethau pwysicaf sydd wedi dod allan o'r daith.


    Un peth sy'n sicr, mae Muhammad a minnau wedi addo cadw mewn cysylltiad a chwilio am ffyrdd o gydweithio yng Nghymru yn y dyfodol.


    Gweddill y daith


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy