Cyfraniad diweddaraf John Rowlands o'i daith gerdded
Mae 668 milltir wedi eu cerdded gan y tîm erbyn hyn - un rhan o dair o'r ffordd yn weddill! - ac wrth yr awr rydym yn agosáu at Gymru.
Ar ben y cerdded dyddiol rwy'n nofio bron bob bore bellach a hynny'n llesol i'r corff a'r enaid.
Cawsom benwythnos braf gan ddechrau gyda Ceilidh Gwyddelig yng Nghaerwysg ac aros wedyn ar fferm gydweithredol gymunedol Canon Frome Court ger Ledbury. .
Hen blasty wedi ei droi'n fflatiau yw'r ffermdy gyda'r trigolion yn rhedeg y fferm ar y cyd, ac yn tyfu eu cynnyrch eu hunain. .
Mae'n enghraifft wych o'r cysylltiad rhwng y gymuned a'r amgylchedd, a sut, wrth gadw pethau'n lleol, y gallwn i gyd leihau ein hôl troed carbon. .
Croesi'r ffin
Rydym ar fin croesi'r ffin yn Llangua, lle bydd David Davies AS yn ein croesawu i Gymru. .
Rwy'n teimlo rhyw frwdfrydedd yng Nghymru gyda chyfeillion yn edrych ymlaen rwy'n credu at gwrdd a fy nghyd gerddwyr ar ôl clywed cymaint o sôn amdanynt! .
Rwy hefyd yn gwneud apêl bersonol i bawb sy'n cefnogi'r ymgyrch i geisio bod yn bresennol yn y rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn am 3.30 yng Nghaeau Cwper. .
Bydd Mohammed o Kenya'n annerch y dorf, yn ogystal a'r actores o Hollywood, Greta Scaachi,. Hefyd, Bethan Elfyn, Maggot - o'r grwp Goldie Lookin Chain ac a ymddangosodd ar Big Brother - Viva Machine, grwp o Abertawe, Jeff Williams a'r gantores, awdures, a chyn fardd plant, Cymru, Gwyneth Glyn sydd wedi cyfansoddi c^an arbennig ar gyfer yr ymgyrch, Gaea'n Gynnara recordiodd y gân ar gyfer C2 yn gynharach yn yr wythnos. .
Ond os gwelwch yn dda, dewch i Gaerdydd i ddangos croeso gwir Gymreig i'r cerddwyr eraill i gyd, ac i ychwanegu llais Cymru yn gryf a chroyw at yr ymgyrch! .
Dyma gerdd Gwyneth.

Gaea'n Gynnar
Ges i 'nysgu pan yn iau
i ddisgwyl briallu ym mis Mai.
Ganol Chwefror be welwn i?
Briallu hyd ein cloddiau ni.
Bloda neidr, botwm crys,
glychau'r gog wel be di'r brys?
Braf eich gweld chi, ffrindiau ffôl.
Pwy a ŵyr pryd dowch chi'n ôl?
Mae'r gaea'n gynnar,
gaea'n gynnar,
gaea'n gynnar ac mae'r ha' yn hwyr.
Pryd ddaw'r gwanwyn?
Pryd ddaw'r gwanwyn?
Pryd ddaw'r gwanwyn, pwy a ŵyr?
Ges i 'nysgu pan yn iau
nad oes nab yn y byd ar fai
am y stormydd mawr a'u stwr.
Erbyn hyn dwi ddim mor siwr.
Mae 'na rai sy'n deud o hyd
nad ein byrdwn ni di'r byd.
Dwi 'di dysgu erbyn hyn
i beidio taeru du yn wyn.
Mae'r gaea'n gynnar,
gaea'n gynnar,
gaea'n gynnar ac mae'r ha' yn hwyr.
Pryd ddaw'r gwanwyn?
Pryd ddaw'r gwanwyn?
Pryd ddaw'r gwanwyn, pwy a wyr?
Raid i minna,
raid i chitha,
raid i ninna newid yn llwyr.