BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
John Rowlands gydag un o'r faniauCymorth faniau glân
Faniau o Gymru yn cludo'n iach

  • Cyfraniad diweddaraf John Rowlands - o'i daith Torrwn y Carbon
  • Dwi'n cael cwmni'r Ddraig Goch yn ddyddiol ar y daith hon. A hynny gan fod logo'r ddraig i'w gweld yn glir ar y ddwy fan sy'n cyd-deithio â ni wrth inni gerdded.


    Mulod!
    Rhain yw'r mulod sy'n cario'n paciau ac sy'n cludo ambell I gerddwr sydd wedi ei anafu - ac yn rhybuddio eraill ein bod ar ein ffordd.


    Ond nid faniau cyffredin mo'r rhain. Maent yn faniau trydan, sydd yn eiddo i John Lilly, o fferm Sorgwm yng Nghwmdu, Crughywel.


    Yn wreiddiol fe'u cynlluniwyd fel faniau post yn y Ffindir ac mae John yn eu mewnforio oddi yno.


    Gallant wneud dros 70 m.y.a. a gyrru hyd at 200 milltir ar y tro. Yna ar ddiwedd y dydd mae'r gyrwyr yn rhoi plwg mewn i soced 13A arferol yn barod am ddiwrnod arall o deithio drannoeth!


    Maent yn gerbydau tawel, glân a rhad i'w rhedeg. Does dim olew i'w newid, dim arogl mwg afiach o'r cefn a does dim treth i'w thalu arnynt chwaith.


    Dim trafferth
    Hyd yma, does yr un cerbyd wedi profi unrhyw drafferthion ar ein taith.


    Gwirfoddolwyr sy'n gyrru'r faniau inni ac i ni, mae'r faniau a'u gyrwyr wedi bod yn gwbl hanfodol.


    'Rydym ni'n teimlo'n aml fel pe byddem ni ar Saffari ar draws y Sahara gyda'r cerbydau a'u ceidwaid yn cludo'n heiddo, y bocsys Cymorth Cyntaf angenrheidiol, ac wrth gwrs yr holl ddeunydd ymgyrchu - yn blacardiau, baneri, cardiau post a chareiau esgidiau.


    Yng Nghaerdydd
    Mae perchennog y faniau wedi dod i'w gwasanaethu yn ystod y daith ac fe gawsom sgwrs ddifyr iawn ac roedd yn hynod o falch fy mod mor awyddus i olrhain achau'r cerbydau, a thynnu sylw pawb at y ffaith mai o Gymru y daethant.


    Bydd John Lilly yn ein cwrdd hefyd pan ddown i Gymru ar 5 Medi 2007 a bydd ganddo stondin yn y rali yng Nghaerdydd, 8 Medi.


    Mae'n gefnogwr brwd o Gymorth Cristnogol ers blynyddoedd ac yn falch iawn fod mudiad Cristnogol yn rhoi sylw i faterion amgylcheddol.


    Cred hefyd ei fod yn gwneud ei gyfraniad unigryw ei hun drwy ddarparu'r cerbydau amgylcheddol gyfeillgar hyn.
    Diolch diffuant iddo!


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy