BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Egwyl yn y Steddfod
Dangos ochr trwy newid careiau esgidiau

Cyfraniad diweddaraf John Rowlands - o faes y Steddfod y tro hwn

Mi ges ychydig ddyddiau o "seibiant" yn yr Eisteddfod yn Sir y Fflint - ond dim ond mewn dyfynodau oherwydd imi gerdded milltiroedd o gwmpas y maes a siarad am y daith yn ddi-baid.

Roeddwn wedi fy synnu faint oedd yn gwybod am y daith gerdded - ac yn cefnogi'r fenter.


Papur Gwyrdd
Roedd Cymorth Cristnogol wedi gofyn imi fynychu'r Steddfod er mwyn trafod y daith ar ei stondin ar y maes, gwneud cyfweliadau gyda'r wasg ac annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch.

John Rowlnads yn cael cefnogaeth disgyblion ysgol o Rhuthun ar faes yr Eisteddfod

Roeddwn hefyd wedi cael fy ngwahodd i annerch ambell gyfarfod - megis lawns Y Papur Gwyrdd ym Mhabell y Cymdeithasau ar y pnawn Llun cyntaf.

Yno roedd Cyfeillion y Ddaear wedi trefnu a sesiwn holi ac ateb a bu trafodaeth ar bwysigrwydd herio newid hinsawdd a beth all pawb ohonom ei wneud er mwyn lleihau ein hôl troed carbon.


Cyfansoddi cerdd
Ym mhabell yr Eglwysi ar y prynhawn Iau cefais gyfle arall mewn cyfarfod Torrwn y Carbon i sôn am y daith gerdded, a rhannu rhai o'r straeon.

Cyflwynwyd cerdyn Pob Hwyl imi gan griw o bobl ifanc o Drefor, Sir Gaernarfon - clwb ieuenctid newydd Chwarae Teg.

Roeddent wedi trefnu noson ar y thema Newid Hinsawdd yr wythnos flaenorol ac ar derfyn y noson wedi cyfansoddi cân gyda Rhys Mwyn a Ryan Kift ar effeithiau Newid Hinsawdd.


Dagrau yn y Glaw!
Dim byd ar ôl
Noson dywyll wlyb
Boddwyd y pentrefi
Boddwyd y celfi

Llawer o bobl ar goll
Lleisiau yn y glaw
Caeau yn llynoedd
Dagrau yn y dwr

Gafael yn fy llaw
Tynna fi o'r glaw
Gafael yn fy llaw
Tynna fi o'r glaw
- yr haul - mi ddaw -


Maes C
Cefais gyfle hefyd gyda'r nos i gymdeithasu a mynychu ambell noson ym maes C lle'r oedd Gwyneth Glyn yn canu un noson - a braf iawn oedd clywed ei bod hi yn cefnogi'r ymgyrch yn gryf ac am ganu yn y rali yng Nghaerdydd ar Fedi 8.

Roedd hi wedi bwriadu canu hefyd yn ein cyfarfod yn mhabell yr Eglwysi ond roedd gormod o gystadleuaeth o'r llwyfan perfformio dros y ffordd!


Careiau i Brown
Ar hyd y daith mi rydan ni'n annog pobl i gyfnewid careiau eu hesgidiau am rai organig masnach deg gyda'r neges 'Torrwn y Carbon' arnynt.

Pan ddaw'r daith i ben yn Llundain ar 2 Hydref 2007 bydd yr hen gareiau yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r ddeiseb i Gordon Brown.

Cyfnewidiwyd sawl pâr o gareiau ym mhabell Cymorth Cristnogol yn y 'Steddfod ac 'roeddwn yn sylwi ar garai nid yn unig ar esgidiau cerdded pobl ond mewn gwalltiau, ar arddyrnau, mewn ambell bâr o Converse All Stars ac yn nhyllau un pâr pinc o esgidiau Crocs!

  • Gellir ffonio 029 20 844646 am gareiau Torrwn y Carbon.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy