BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Risolat - dathlu ei phen-blwydd ar y daithDathlu pen-blwydd
Pumed cyfraniad John Rowlands
Ddoe 'roedd hi'n ben-blwydd ar Risolat.
Ac nid unrhyw ben-blwydd ychwaith.

Roedd y ferch o Tajikistan yn dathlu ei phen-blwydd yn 18 oed ar y daith

Wedi gwirioni
Mae hi'n ferch fywiog a deallus - yn astudio Chineaeg yn y brifysgol - ac yn aelod o dim pêl-fasged cenedlaethol Tajikistan a Chlwb Trafod Ieuenctid Tajik.

Roedd hi wedi gwirioni gyda'r holl gyfarchion, cardiau ac ati - yn enwedig y cerdyn a gafodd "gan dy fod rŵan yn 18 rwyt ti'n oedolyn ac mi gei fynd i dafarn"!

Torri syched - Risolat. Gan ei bod yn ben-blwydd arni cymerodd yr awennau a'n harwain am y diwrnod ac ar ôl diwrnod blinedig cafodd olchi ei thraed ym Môr y Gogledd.

Cyflwynwyd cacen ben-blwydd iddi gyda deunaw o ganhwyllau ac 'roedd wrth ei bodd gan nad oedd wedi cael cannwyll ar gacen ers yn ferch fach.

Canu a dawnsio
Yna, cafwyd noson hwyr a gwirion o ganu, chwarae pob math o gemau fel pasio'r parsel a dawnsio.

Byddai beirniaid dawnsio Eisteddfod Llangollen wedi bod wrth eu boddau gan inni ddawnsio pob math o ddawnsfeydd gan gynnwys rhai o'r Alban, Sbaen, Y Congo, Portiwgal - a Chymru wrth gwrs!

  • I brif ddalen y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy