BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Demo o Ynysoedd y Philippines Gwewyr y gwyntoedd
Pedwerydd cyfraniad John Rowlands o Daith Torri'r Carbon
"Mae'r byd yn fach."
Sawl gwaith glywsoch chi'r ymadrodd yna?
Mae'n wir yn achos y daith hon hyd yma!

Mae Demo o Ynysoedd y Philippines wedi aros yng nghartref teulu sydd ag un o'i meibion yn beiriannydd yn ei wlad enedigol ac maen nhw'n bwriadu ymweld â'r mab yn ystod y misoedd nesaf a chyfarfod Demo pan fyddan nhw yno.

A beth mae'r mab yn ei wneud?
Adeiladu traffordd ar draws y brif ynys ac mae o eisoes wedi bod wrthi ers pedair blynedd!

Taer angen gwella'r ffyrdd
Mae taer angen gwella'r ffyrdd ar y Philippines ond dyma un cynllun enfawr eto sydd yn aml yn cael ei godi ar draul gwella safon byw y tlawd.

Mae gan ormod o lywodraethau'r byd ormod o ffydd mewn cynlluniau mawr fel codi argaeau a thraffyrdd pryd y dylen nhw ganolbwyntio ar wella safon byw trwch eu poblogaeth.

Mesur o safon a lles cymdeithas meddan nhw ydi cyflwr y tlodion yn y gymdeithas honno a'r gwledydd Sgandinafaidd neu wledydd Llychlyn sydd ar y brig bob tro ac mae'n siŵr bod 'na wers i wledydd eraill yn hynny.

Ymateb da
Bu Demo a minnau yn siarad am nod y daith mewn gwasanaeth fore Sul yn un o eglwysi mwyaf Caeredin a chawson ymateb da.

Eglwys yr Alban ydi'r eglwys swyddogol yma ac mae'n rhyfeddol o ddryslyd i Gymro bach fel fi.

Mae'n Eglwys Bresbyteraidd fel fy enwad innau ond llawer o'i heglwysi yn hynafol ac yn dyddio'n ôl i gyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd.

Un peth sy'n amlwg hyd yma yw bod safon byw yn uwch yn gyffredinol yn yr Alban nac yng Nghymru ond, wedi dweud hynny, mae 'na gonsyrn neu ofal hefyd am y llai breintiedig mewn cymdeithas, sy'n cael ei amlygu yng ngweithgareddau cymdeithasol llawer o'r eglwysi.

Stori Demo
Ond rhag ofn ichi feddwl fy mod i wedi anghofio am Demo dyma ei stori o:
Mae'n Ddirprwy Gyfarwyddwr un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn y Philippines, ynysoedd poblog yn ne-ddwyrain Asia, lle mae 80% o'r bobl yn Babyddion.

Mae'r ynysoedd yn cael eu taro gan wyntoedd cryfion y Typhoon sy'n creu dinistr ar draws ardaloedd eang.

Y tlawd sy'n dioddef waethaf ac mae llawer yn cael eu lladd neu eu gwneud yn ddigartref ac yn colli eu bywoliaeth wrth i'w cnydau a'u cychod pysgota gael eu difa.

Mae Demo yn arwain yr ymdrechion i adfer y sefyllfa yn y cymunedau sydd wedi dioddef oherwydd y gwyntoedd cryfion.

  • I brif ddalen y daith

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy