 |  |  | Hanes Mohammed Sychder a newyn yn Kenya |  |  |
 | Trydydd cyfraniad John Rowlands.
Braint yw gwrando ar y stori bersonol sydd gan bob un o'r cerddwyr o'r gwledydd tlawd.
Mae clywed am effaith newid hinsawdd ar eu cymunedau hwy yn dorcalonnus ac yn anodd ei amgyffred i ni yma oherwydd y cannoedd o filoedd yr effeithir arnyn nhw ymhob gwlad.
Cyfaill arbennig
Un sy'n gyfaill arbennig imi erbyn hyn yw Mohammed, gŵr ifanc o ogledd Kenya.
Roedd ei trainers yn rhy dyn iddo ar y dechrau oherwydd ei draed mawr ond ers iddo gael rhai newydd does dim pall arno ac mae fel arfer ymhell ar y blaen.
Mae'n barod i wrando arna i am ryw reswm wrth imi geisio ei annog i arafu ac mae'n fy nghymharu i ag un o hynafiaid ei lwyth!
Mae'n gweithio i Northen Aid, mudiad Mwslemaidd sy'n bartneriaid i Gymorth Cristnogol er 1999 ac ef sy'n gyfrifol am y prosiectau argyfwng yn ardal Mandera yng ngogledd Kenya.
Cyfnodau o sychder Mae cyfnodau o sychder wastad wedi taro ardal Mandera.
"'Ond pan da ni'n edrych ar ddifrifoldeb y sefyllfa," meddai Mohammed, "ddegawd wrth ddegawd mae pethau wedi bod yn gwaethygu. Mae popeth wedi bod yn mynd yn anos ac anos, yn fwy ac yn fwy difrifol."
Ers canrifoedd bu bugeiliaid crwydrol gogledd Kenya yn addasu oherwydd y tywydd sy'n gynyddol amhosib ei ragweld.
Ond mae difrifoldeb y sychder yn ardal Mandera dros y 25 mlynedd diwethaf wedi gorfodi i un o bob tri o'r bugeiliaid newid eu ffordd o fyw.
Gwersylloedd Ymddangosodd gwersylloedd dros dro ar draws Mandera.
"Mae ein holl ffordd o fyw wedi newid - da ni wastad ar grwydr, ond rydan ni ar y dibyn," meddai Mohammed.
"Rydan ni'n bobl sydd wedi colli ein bywoliaeth. 'Da ni heb ddewis y bywyd yma, mae hyn oll wedi cael ei orfodi arnon ni."
Gyda cymunedau yn gallu colli cymaint â 250 o wartheg y dydd a chynifer â 500 o ddefaid a geifr mae teuluoedd yn llwgu ac yn troi'n ffoaduriaid amgylcheddol.
Wrth ei fodd Mae Mohammed wrth ei fodd ar y daith, yn sgwrsio gyda ni'r cerddwyr, yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfod cefnogwyr Cymorth Cristnogol.
Ond yn fwy na hyn o bosib, mae wedi gwirioni ei fod yn gallu cynhesu llefrith mewn peiriant microdon mewn llai na dau funud!
I brif ddalen y daith
 |  |  |  |
|  |
 |
 |
|