 |  |  | Cyrraedd Caeredin Gorymdeithio i sain y pibau |  |  |
 | Mae'r daith wrthi'n codi stêm yn yr Alban erbyn hyn.
Ddaru ni gychwyn yng ngogledd Iwerddon a hwylio draw i'r Alban. Roedd yn bwysig ein bod yn cychwyn yn ngogledd Iwerddon gan eu bod hwythau'n ethol aelodau seneddol i Lundain ac un o brif amcanion y daith ydi galw ar y Llywodraeth a Thŷ'r Cyffredin yn gyfan i lunio Mesur Newid Hinsawdd fydd yn ddigon effeithiol i wneud gwahaniaeth go iawn.
Yn rhy dila Mae 'na ofid mawr fod y mesur fel y mae o yn rhy dila o beth coblyn.
Yn ystod yr wythnos gyntaf rydym ni wedi cerdded ymhell dros gan milltir- o Troon ar arfordir gorllewin yr Alban i Gaeredin.
Bodiau'n berwi Ar un diwrnod cofiadwy iawn - i'r traed beth bynnag - ddaru ni gerdded 27 milltir ar hyd camlas nes bos ein bodiau'n berwi. Pobl luddedig iawn gyrhaeddodd eu gwelyau y noson honno.
Rydan ni wedi profi croeso anhygoel ar hyd y daith ac rwyf wedi colli cyfrif o'r holl baneidiau te a chacenni siocled dwi wedi eu bwyta - digon i wneud hyd yn oed Jonsi'n genfigennus!
Aros efo teuluoedd fyddwn ni weithiau ond gan amlaf mewn festrïoedd capeli neu eglwysi.
Mae'r dyddiau yn llifo i'w gilydd ond mae'r frawdoliaeth rhyngom fel cerddwyr o bedwar ban byd yn un o uchafbwyntiau'r daith hyd yma.
Does dim fel coesau blinedig a thraed poenus i'n gwneud ni'n griw clos sy'n cefnogi'n gilydd gan rannu profiadau wrth gerdded.
Yn effeithiol Mae'r daith eisoes yn profi'n effeithiol iawn o ran dylanwadu ar arweinyddion cynghorau a gwleidyddion.
Da ni wedi cyfarfod â sawl aelod o senedd yr Alban a senedd Llundain.
Mi fuon ni yn Kirkcaldy, etholaeth y Prif Weinidog newydd, Gordon Brown, i gyflwyno llythyrau a deisebau iddo.
Doedd o ddim adref ond ym Mharis yn trafod materion pwysfawr yn cynnwys yr amgylchedd gydag arlywydd newydd Ffrainc.
Ond mi welwn ni o yng nghynhadledd y Blaid Lafur fis Medi gobeithio.
Mae 'na ddigon o wleidyddion newydd mewn grym ar hyd y lle, siawns bod rŵan yn gystal cyfle ag erioed iddyn nhw gymryd newid hinsawdd o ddifri.
Dydw i heb glywed fawr o newyddion o Gymru a'r cyntaf a glywais am aelodau newydd Plaid Cymru yn llywodraeth ein Cynulliad ni oedd pan ffoniodd ffrind i holi am gyflwr fy nhraed!
Dros y bont Profiad bythgofiadwy o ran cerdded oedd croesi'r bont grog enwog dros y Firth of Forth yn nannedd y gwynt ac arwain pawb drosti'n ddiogel.
Cael mynd mewn cwch gyda'r nos i weld y morloi a'r adar ar ynysoedd bychain o amgylch a chysgu wedyn yn union o dan y bont enfawr.
Cyrraedd Caeredin Drannoeth dyma gerdded mewn i Gaeredin - yn cael ein harwain gan y bagbibau traddodiadol nes bod pennau pawb yn troi mewn rhyfeddod i gyfarch y criw lliwgar o gerddwyr.
Dyna orymdeithio wedyn hyd Princess Street a'i siopwyr Sadwrn prysur, fyny'r Royal Mile nes cyrraedd rali a drefnwyd gan Gymorth Cristnogol.
Roedd yn ysbrydoliaeth i bawb gyda bandiau fel Amy Mc Donald, Attic Lights, Soweto Kinch ac actorion fel Billy Boyd allan o Lord of the Rings a Katie Leung - Cho Chang o ffilmiau Harry Potter - yn dangos eu cefnogaeth.
Bydd cyfle i bobl Cymru hefyd gefnogi'r daith gerdded a'r ymgyrch newid hinsawdd mewn rali yng ngerddi Cooper, Caerdydd, ar 8 Medi 2007.
Ond ar hyn o bryd, mae mis Medi'n edrych yn bell i ffwrdd - ymlaen â ni i Cockenzie nesaf!
I brif ddalen y daith
 |  |  |  |
|  |
 |
 |
|